Cynganeddu yn Nhŷ Newydd
Iau 12 Mai 2016 / Ysgrifennwyd gan Aneirin Karadog

Cynganeddu yn Nhŷ Newydd

 Yn ystod ail wythnos gwyliau’r Pasg fe gynhaliwyd digwyddiad unigryw ac arbennig yn hanes y gynghanedd, sef cwrs preswyl i ddysgu cynganeddu, a hynny yng Nghanolfan Ysgrifennu, Tŷ Newydd. Hyd y gwn i, ni fu erioed cwrs carlam i ddysgu’r grefft yn unman arall yn y byd ar unrhyw adeg arall mewn hanes, ac ymddengys mai dyma’r ffordd orau i ddysgu. Dof i esbonio pam yn y man.

Mae’r diolch yn gyntaf i Leusa Llewelyn, Pennaeth Dros Dro Tŷ Newydd, am gael y syniad o gynnal cwrs cynganeddu, ac yna’r syniad gwell fyth o ymgynghori gyda’r Gymdeithas Gerdd Dafod ynglŷn â’r ffordd orau i fynd o’i chwmpas hi, er mwyn ceisio sicrhau y byddai’n gwrs atyniadol a fyddai’n denu digon o bobl. Cyfunwyd y syniad yma wedyn gyda’r gefnogaeth y gall y Gymdeithas Gerdd Dafod ei chynnig bellach i awduron ifanc ers i Gronfa Gerallt gael ei sefydlu. Mae Cronfa Gerallt bellach yn bodoli (ac yn hapus iawn i dderbyn unrhyw gyfraniadau yr hoffai rhywun ei wneud tuag ati!) i hybu’r grefft o gynganeddu a barddoni ymysg pobol ifanc Cymru, a pha ffordd well i wneud hynny na noddi tri bardd ifanc i fynd ar gwrs cynganeddu.

Y tri pherson a ddewiswyd yn y pen draw oedd Iestyn Tyne, Matthew Tucker a Mared Ifan. Mae Iestyn yn enw cyfarwydd i nifer eisoes drwy ei lwyddiannau yn Eisteddfod yr Urdd, lle bu’n agos at gipio’r gadair a’r goron eisoes, a hynny cyn ei fod yn 18 mlwydd oed! Ond nid oedd Iestyn cyn mynd ar y cwrs yn medru cynganeddu. Mae Matthew Tucker, myfyriwr Cymraeg blwyddyn gyntaf yn Abertawe a chyn-ddisgybl o Ysgol y Strade, eisoes wedi dysgu’r grefft drwy ddilyn gwersi ar gyfrif Twitter @cynganeddu, pwy bynnag yw hwnnw neu honno, gan fod yr athro cyfrin yn para’n ddienw hyd yn hyn. Mae Mared Ifan, sy’n ohebydd gyda Golwg 360, wedi bod yn dilyn gwersi Ysgol Farddol Caerfyrddin ers mis Medi, yn ffrwd y dechreuwyr dan arweinyddiaeth y Prifardd Tudur Dylan Jones.

Yn ogystal â thrindod Cronfa Gerallt, daeth 8 darpar brifardd arall i ymdrybaeddu yn sŵn y glec. Rwy’n siŵr y byddai cyn berchennog Tŷ Newydd, Lloyd George, wedi rhoi sêl ei fendith i’r fath weithgaredd! Wedi i bawb gyrraedd nos Lun, rhannwyd yr 11 yn ddau grŵp, sef y grŵp dechreuwyr o dan fy ngofal i, a grŵp y mireinwyr, sef y rhai oedd eisoes yn medru cynganeddu ac yn awyddus i godi i lefel uwch o gynganeddu, dan ofal Tudur Dylan. Gan fod pawb yn ei throi hi am adre fore Gwener, dim ond tridie llawn o ddysgu oedd gyda ni mewn gwirionedd. Roedd gofyn i mi fel tiwtor y dechreuwyr roi pwysau mawr arnyn nhw felly gan garlamu yn ein blaenau go iawn os am geisio efelychu’r 9 mlynedd o ddysgu graddedig a wynebai feirdd yr uchelwyr ‘slawer dydd, a’i wasgu mewn i dridie!

Cyn mynd ati i ddysgu cynganeddu fore Mawrth, crëwyd hefyd dau dîm Talwrn, fel pe bai dim digon gan bawb i’w wneud eisoes, gyda’r bwriad o dalyrna yn Nhafarn y Plu, Llanystumdwy, nos Iau. Felly roedd gan bawb dasgau i weithio arnynt yn ogystal â chanolbwyntio ar faes llafur cynganeddol y cwrs. Gosodwyd cynganeddwyr profiadol ar y ddau dîm er mwy cadw cydbwysedd, ond y rhyfeddod i mi oedd gweld, erbyn i ni gyrraedd y Talwrn nos Iau, nad oedd modd gwahaniaethu rhwng y ‘dechreuwyr’ a’r ‘mireinwyr’.

Y tiwtoriaid Tudur Dylan ac Aneirin Karadog yn beirniadu'r Talwrn yn Y Plu
Y tiwtoriaid Tudur Dylan ac Aneirin Karadog yn meuryna’r Talwrn yn Y Plu

Cyn i’r cwrs ddechrau, roeddwn i yn bersonol wedi bod yn poeni am fethu, ac am adael y carlam-gynganeddwyr i lawr, drwy adael iddynt fynd o Dŷ Newydd naill ai heb fwynhau, neu’n waeth byth, heb deimlo eu bod yn deall nac yn medru cynganeddu. Ond erbyn bore dydd Mercher, ro’n i’n ffyddiog na fyddwn i na Tudur Dylan yn wynebu’r un methiant, gan fod arwyddion fod pawb ar y cwrs wedi dechrau dangos symptomau o ddioddef o Lid y Gynghanedd (term a fathwyd gan feirdd y taeogion, sef Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan Jones ac Emyr Davies). Rhai o nodweddion yr aflwydd yw peidio gallu cysgu’r nos gan fod y meddwl yn ceisio cynganeddu, peidio gallu cynnal sgwrs heb sylwi ar gynganeddion yn cael eu chwydu ar lafar, a pheidio gallu stopio cynganeddu geiriau, hanner brawddegau neu ddywediadau mae dioddefwr yn ei weld neu yn ei glywed. Mae arwyddion ffordd neu fwydlenni mae’n debyg yn gylprits mawr yn hyn o beth!

Gyda llid y gynghanedd felly wedi cydio, a’r tiwtoriaid gwadd, Karen Owen a Twm Morys yn ein harwain a’n diddanu ar adegau gwahanol yn ystod y dydd Mercher, roedd pethau’n argoeli’n dda ar gyfer y Talwrn. Ond yn ogystal â chynganeddu, teimlem fod angen dysgu am rai mesurau. Pa iws dysgu gyrru heb gerbyd i gamu iddo? Hefyd, ro’n i a Tudur Dylan yn awyddus i osod y beirdd hyn ar lwybr fyddai’n arwain at greu beirdd sy’n deall pwys geiriau yn ogystal â chynganeddwyr medrus, felly fe grëwyd rhestr i’w diweddaru’n barhaus drwy’r wythnos o ‘grapeiriau’ barddonllyd. Hynny yw, geiriau sydd wedi bod yn hollol dderbyniol tan yn gymharol ddiweddar gan nad oedd tan nawr, orddefnydd ohonynt, ond geiriau sydd bellach yn canu larymau yng nghlustiau nifer o feirdd y cyfnod diweddar, gan eu bod bellach yn wacach eu hystyron, yn sgil cyrraedd y saturation point dan sylw.

Ond yn ôl at y pwnc dan sylw ac at dalwrn mawreddog y Plu, a oedd yn dod â’r cwrs i ben. Fel soniais, fe grëwyd dau dîm, ac fe ofynnwyd i’r ddau dîm roi enwau i’w hunain, felly fe wynebai dîm ‘Plant y Plu’ ornest ffyrnig yn erbyn tîm ‘Ias a Gwae, Naws ac Ing’. Bu’n ornest hynod o ddifyr gydag amryw o dasgau gwahanol i dalyrnau arferol, gan ein bod yn canolbwyntio ar y cynganeddion. Un uchafbwynt personol i mi oedd llinell groes o gyswllt Gwilym Bowen Rhys (lwc owt Gymru, mae cyfansoddwr caneuon y Bandana bellach yn gynganeddwr peryglus!) sydd ar un wedd yn disgyn i hiwmor toilet, ond hefyd yn adlewyrchu ein hwythnos o ledu haint Llid y Gynghanedd:

“Torrodd wynt o radd heintus!”

 Pinacl y Talwrn oedd y dasg olaf, sef llunio englyn ar y thema hen neu newydd, neu gyfuniad o’r ddau. Fe gynhwysaf yr holl englynion er mwyn i chi allu eu mwynhau, ond mae un englyn, sef yr englyn cyntaf sy’n dwyn y teitl ‘Yr Hen a’r Newydd’ yn nodedig am y ffaith nad oedd ei awdur yn medru cynganeddu o gwbl ddeuddydd cyn ei gyfansoddi. Roedd Iestyn Tyne, serch hynny, yn medru barddoni yn hynod fedrus eisoes, ac felly Gymru, cadwch eich llygaid a’r clustiau yn agored am lwyddiannau sicr y bardd dawnus yma o Lŷn.

Canu yn y Plu
Canu yn y Plu

 

Cân ar ôl y talwrn
Cân ar ôl y talwrn

Gair bach cyn cloi; roedd hefyd sawl merch ar y cwrs, a’r gobaith felly yw bod modd ychwanegu yn go fuan at enwau’r ddwy ferch sydd eisoes wedi ennill cadair, gyda’r gobaith y bydd Kate Wheeler, Llio Maddocks, Mared Ifan, Helen Pughe a Judith Musker Turner rhyw ddydd yn codi i fonllefau a dathliadau ein Prifwyl ar bnawn dydd Gwener. Hoffwn hefyd ddiolch i’r cyfryw ddarpar brifeirdd cadeiriol benywaidd, yn ogystal ag Osian Rhys, Huw Rowlands, John Griffiths, Iestyn Tyne, Matthew Tucker a Gwilym Bowen Rhys am gyfrannu at wythnos na fyddaf fyth yn ei hanghofio, oherwydd ei hwyl a’i chynganeddu heintus.

Soniais ar y dechrau fod cyrsiau carlam fel hyn yn ffordd ddelfrydol o gynganeddu, y prif fantais, yw bod y preswylwyr oll wedi cyflawni’r hyn a fyddai wedi cymryd oddeutu dwy flynedd drwy fynychu dosbarthiadau nos, gan fod y tiwtoriaid yno gyda nhw ddydd a nos, a chan bod yr effaith ‘big brother house’ cynganeddol yn golygu nad oedd lle i neb ddianc rhag y gynghanedd na rhag Llid y Gynghanedd. Rwyf ar ddeall y bydd yna gwrs tebyg yn cael ei gynnig eto yn y dyfodol, ac fe fydden i’n argymell yn gryf i chi, os oes gyda chi awydd gallu cynganeddu, y gallwch droi yn Jedis Cymraeg mewn cwta dridie o fynd ar gwrs cynganeddu yn Nhŷ Newydd.


Yr hen a’r newydd

Dyfod i dwrw oes Dafydd, i draw

i drwst cân a chywydd;

a naddu fyth ei nawdd fydd

i ni, ei awen newydd.

Iestyn Tyne

 

Ymweld â thŷ fy nhaid

O’r funud yr wyf yno, yn sefyll

lle sefais yn wylo,

er y glec, mae’r drws ar glo;

ddoe’n wên, ond heddiw’n huno.

Matthew Tucker

 

Y Dresel Cymreig

 Fel lodes yn rhodresa, seren oedd.

Seren yw. O’i chwmpas

holl harddwch ei phell urddas

yn y sglein sy’n ei gwisg las.

Kate Wheeler

 

Taflu Dis

 Rŵan yma, rwy’n amau. Nid yw Duw’n

taflu dis trwy’r oesau;

ond mae’r nos yn agosáu

o fewn sain fy nis innau.

John Griffiths

 

Hen

Y bore ddaeth i’r bröydd hyn a’r haf

mor oer ar y bryncyn,

y dail heno sy’n dilyn

yn araf o’r gaeaf gwyn.

Mared Ifan