Gweithdai Cynganeddu am ddim i Ysgolion Uwchradd Gwynedd
Mer 2 Tachwedd 2016 / / Ysgrifennwyd gan Leusa

Mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd wedi derbyn arian gan Gronfa Arbrofol Eryri (CAE) drwy law’r Parc Cenedlaethol i gynnal gweithdai cynganeddu mewn ysgolion uwchradd.

Gallwch wneud cais am weithdy hanner diwrnod yn eich ysgol uwchradd chi fydd yn cael eu cynnal gan y bardd a’r athro barddol profiadol, Karen Owen. Er mwyn gwneud cais, mae’n rhaid:

  • Darparu grŵp o ddim mwy na 20 disgybl sy’n awyddus i ddysgu mwy am y gynghanedd. Awgrymwn flwyddyn 10 a hŷn.
  • Gyrru neges atom yn Nhŷ Newydd yn esbonio pam eich bod yn awyddus i gael gweithdy yn eich ysgol. Gall y neges hon gynnwys manylion fel:

o Oes unigolyn/unigolion yn yr ysgol sydd â diddordeb yn y grefft eisoes ac yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau?
o Oes darpariaeth i addysgu’r gynghanedd eisoes yn bodoli / wedi ei gychwyn?
o Oes unrhyw beth am eich ardal sy’n sbardun i’ch cais? E.e Timau Talwrn sy’n edrych am aelodau, Eisteddfodau Cadeiriol bychain lleol ayyb
o Yw’r gynghanedd am helpu’r disgyblion gyda’r gwaith ysgol sydd ar y cwricwlwm / arholiadau

  • Gyrru’r cais atom erbyn dydd Gwener 20 Ionawr ar yr hwyraf. Bydd pob cais yn cael ei asesu gennym yn Nhŷ Newydd, a byddwn yn dod i benderfyniad yr wythnos ganlynol

Bydd y gweithdy yn rhad ac am ddim, ac yn cael ei gynnal yn ystod mis Ionawr neu gychwyn mis Chwefror 2017. Bwriad Tŷ Newydd yw sgowtio am dalent a gwir ddiddordeb yn y gynghanedd ymysg pobl ifainc, gyda’r gobaith o greu darpariaeth sefydlog yn y maes i unigolion brwdfrydig ar ôl y sesiynau blasu hyn.

Cynhelir y gweithdai fel rhan o Ŵyl Farddoniaeth Tŷ Newydd, fydd yn cael ei chynnal ar benwythnos 17-19 Chwefror 2017, fydd hefyd yn cynnwys sesiynau blasu’r gynghanedd i feirdd o bob oed yng nghwmni Aneirin Karadog a Twm Morys. Bydd gwahoddiad i’r holl bobl ifainc i gymryd rhan yn yr ŵyl.

Yn ogystal â golygfeydd godidog, nosweithiau tywyll i weld y sêr, bywyd gwyllt a digon o antur – mae Eryri hefyd yn gyfoeth o ddiwylliant a threftadaeth lenyddol. Dyma fro rhai o brif feirdd a llenorion yr ugeinfed ganrif, ac mae’n parhau i fod yn orlawn o unigolion talentog ym myd llenyddiaeth yng Nghymru. Rydym yn teimlo’n angerddol dros gynnal ein treftadaeth lenyddol, ac yn edrych ymlaen at gael cwrdd â Phrifeirdd y dyfodol mewn ysgolion ledled Eryri.

Am ragor o wybodaeth, neu i wneud cais am le, cysylltwch â Thŷ Newydd:
tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522811

Dyddiad cau i ymgeisio: Dydd Gwener 20 Ionawr