Cynllun Sgript i Lwyfan
Gwe 10 Tachwedd 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o groesawu chwe awdur ifanc i Dŷ Newydd y penwythnos hwn (11 – 13 Tachwedd) ar gyfer gweithdy preswyl cynllun Sgript i Lwyfan Cwmni Theatr Frân Wen.

Dyma gyfle gwerthfawr i 6 sgwennwr ifanc disglair gydweithio gyda Frân Wen a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd i ddatblygu gwaith newydd dan gyfarwyddyd mentoriaid, dramodwyr, cyfarwyddwyr ac actorion profiadol.

Yn gweithio ar y prosiect eleni bydd Branwen Davies, crëwr theatr profiadol sy’n arfer â sbarduno creadigrwydd newydd trwy ei rôl fel darlithiwr ym Mhrifysgol Bangor ac fel un o dîm theatr Protest Fudur. Hefyd Artist Cyswllt Frân Wen, Elgan Rhys, fydd yn cynnig ei brofiad ef fel dyfeisiwr, perfformiwr ac ysgrifennwr theatr, a Chyfarwyddwr Artistig Cwmni Pluen.

Y chwech lwcus yw Gwenllian Ellis, Catrin Lloyd, Alun Parrington, Llywela Ann, Kyle Howard a Lowri Cêt. Rhwng Tachwedd a Rhagfyr bydd y chwech yn cael cyfle i ddatblygu eu sgriptiau drwy dderbyn mentoriaeth gyson mewn da bryd ar gyfer cyfle i gael ymarferion gydag actorion a chyfarwyddwyr proffesiynol yng nghanol mis Rhagfyr. Bydd cyfle i weld dangosiad o’r gwaith yn SHED, Y Felinheli ar 14 Rhagfyr cyn cael cyfle pellach i ddatblygu’r gwaith ar leoliad Frân Wen yn gynnar yn 2018.

Er mwyn dod i adnabod y criw, dyma ofyn iddynt ateb ein Holiadur Pum Munud. Dyma gyflwyno Lowri Cêt:

A’i dyma’r tro cyntaf i ti ymweld â Thŷ Newydd?

‘Dw i erioed wedi bod i Dŷ Newydd o’r blaen, ‘dw i’n edrych ymlaen at y profiad!

Oes gen ti fan penodol y byddi di’n mynd i sgwennu?

Ar fy ngwely, bwrdd yn y gegin, ar y soffa… rwla lle ‘dw i’n gyfforddus.

Lowri Cêt

Wyt ti’n dilyn routine benodol? Oes gen ti reol o sgwennu rhywbeth bob dydd; beiro arbennig terfyn geiriau?

Jyst unrhyw feiro sydd ddim yn ddu. Dwi’n gweld du mor boring i edrych ar!

Beth yw dy hoff lyfr?

Ma’ hynny’n actually rili anodd! ‘Dw i’n meddwl fyswn i’n mynd am The Twits gan Roald Dahl achos hwnnw oeddwn i’n darllen fwya’ yn blentyn, fyswn i’n ei ddarllen o heddiw, a fyswn i’n darllen o i fy mhlant yn y dyfodol.

Pe galle ti fod yn awdur ar unrhyw lyfr, pa lyfr fyddai hwnnw?

The Shock of the Fall – Nathan Filer. Mae o’n anhygoel.

Pe galle ti ddewis 3 awdur, byw neu farw, i ddod draw am swper, pwy fydde ti’n eu dewis?

Roald Dahl, Sonia Edwards, ac Agatha Christie.

Pe galle ti fod yn unrhyw gymeriad mewn llenyddiaeth o unrhyw fath, pwy fydde ti a pham?

Matilda. Ma’ hi mor ddiniwed ond eto mae hi’n gallu bod yn chydig o fwddrwg. A ma’ hi’n super clyfar -fysa hynna’n handi.

Am ragor o wybodaeth am y cynllun Sgript i Lwyfan, ewch i: www.franwen.com