Dechreuwch eich Pennod Nesaf gyda detholiad o Gyrsiau Ysgrifennu Creadigol Llenyddiaeth Cymru yn Nhŷ Newydd, y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi lansio Dy Bennod Nesaf – rhaglen amrywiol o gyrsiau ac encilion ysgrifennu creadigol i’ch helpu i ddod â’ch straeon a’ch syniadau yn fyw yn 2024.  

Mae’r cyrsiau wedi’u lleoli yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, sef y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol, ac maent yn ymgorffori barddoniaeth a rhyddiaith ac yn amrywio o ymgolli yn yr amgylchedd naturiol i ysgrifennu caneuon; o ysgrifennu i oedolion ifanc i ysgrifennu ffuglen trosedd.  

Mae’r rhaglen yn cynnwys ystod o gyrsiau penwythnos, undydd a chyrsiau o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac maent yn cael eu cynnig yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.  

Mae opsiynau newydd ar gyfer meithrin creadigrwydd yn cynnwys Ysgrifennu Natur; Encil Yoga ac Ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg; Ysgrifennu a Nofio Gwyllt; neu Encil Dihangfa Dawel lle byddwch yn diosg y digidol. 

Er bod Tŷ Newydd yn gyn-gartref hudolus ac atmosfferig i David Lloyd George yr unig Gymro i fod yn Brif Weinidog ar y Deyrnas Unedig – mae’r encilfa’n croesawu awduron ar bob lefel, ac o bob oedran a chefndir. 

Mae detholiad arbennig o awduron arobryn yn arwain cyrsiau neu’n ddarllenwyr gwadd yn 2024, gan gynnwys Prifeirdd, Prif Lenorion ac enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Byddant yn cynnig gweithdai trochol, darlleniadau a thiwtora pwrpasol, gan ysbrydoli cyfranogwyr a’u rhoi ar ben ffordd lle bynnag maent ar eu siwrne fel awdur.  

‘Cydio yn awen Enlli’ yw un o’r cyrsiau cyntaf ar raglen 2024, lle bydd profiad Tŷ Newydd yn mynd ar daith, gyda’r cyfranogwyr yn hwylio i Ynys Enlli am wythnos o ysbrydoliaeth greadigol. Dan arweiniad yr ecolegydd a’r awdur Elinor Gwynn a’r awdur Jon Gower mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, bydd yr awduron yn cael eu trwytho mewn bywyd gwyllt a’u hamgylchynu gan blanhigion, anifeiliaid a thirwedd syfrdanol yr ynys, sy’n ysbrydoli artistiaid ac awduron ers canrifoedd.  

Bydd Rhys Iorwerth a Manon Awst yn arwain Cwrs Carlam: Y Gynghanedd, lle byddant yn rhannu cyfrinach hen, hen grefft, ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ymdrochi’n llwyr yn hud y gynghanedd. Bydd Megan Angharad Hunter a Manon Steffan Ros yn arwain penwythnos arbennig fydd yn canolbwyntio ar ysgrifennu ffuglen i bobl ifanc, lle ceir archwilio sut y gellir cyflwyno themâu dyrys a heriol i gynulleidfaoedd ifanc heb eu nawddogi nac eu brawychu.  

Bydd Gareth Evans-Jones, Llwyd Owen, Angharad Tomos a Sioned Erin Hughes yma i rannu eu harbenigedd ar amrywiaeth o gyrsiau undydd, gyda rhagor o gyrsiau undydd i’w cyhoeddi ar gyfer yr hydref nesaf. Ceir hefyd benwythnos o ysgrifennu creadigol i ddysgwyr yng nghwmni’r ddwy athrylith, Bethan Gwanas ac Esyllt Maelor, a detholiad o gyrsiau dwyieithog ac encilion Cymraeg dan ofal awduron a hwyluswyr megis Grug Muse, Laura Karadog, Bethan Marlow, Georgia Ruth, Iola Ynyr, Sian Melangell Dafydd ac Iwan Huws. 

Bydd cyn-Fardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, yn arwain dosbarth meistr ochr yn ochr â’r bardd clodwiw, Maura Dooley. Ymhlith mawrion eraill y byd llenyddol a fydd yn cynnig arweiniad arbenigol flwyddyn nesaf mae Hollie McNish, Hanan Issa, Cynan Jones, Menna Elfyn, Sophie Mackintosh, Dean Atta, Alys Conran, Cathryn Summerhayes, Clare Mackintosh a Helen Mort. 

Mae Tŷ Newydd yn adeilad rhestredig Gradd II* hudolus a adeiladwyd yn y bymthegfed ganrif, ac mae ei ofodau creadigol a’i ystafelloedd atmosfferig yn orlawn o hanes a threftadaeth.  

Bu i’r pensaer enwog Clough Williams-Ellis, sy’n adnabyddus am greu pentref Eidalaidd hyfryd Portmeirion, ond ddeg milltir o Lanystumdwy, droi ei law at ail-fodelu’r cartref i Lloyd George. Adeiladodd a chreodd erddi eang Tŷ Newydd, gyda’u golygfeydd panoramig dros Fae Ceredigion ac arfordir y gogledd ac yn ôl tua mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri.    

Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, Claire Furlong: “Rydyn ni wedi’n cyffroi gan Dy Bennod Nesaf – sef ein rhaglen o gyrsiau ar gyfer 2024 – ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn apelio i awduron waeth beth yw eu profiad.   

“Mae’n anodd cyfleu’r profiad hudolus sydd i’w gael yn Nhŷ Newydd, wedi’ch amgylchynu gan awduron eraill a thiwtoriaid sy’n ymroddedig i fireinio eich crefft. Mae Tŷ Newydd yn brofiad unigryw ac egnïol, lle gall pawb sy’n dod ar ein cyrsiau anghofio am straen eu bywydau bob dydd, a neilltuo’u hamser i weithio ar eu nodau ysgrifennu personol.   

“Mae prydau cartref a lleol wedi’u cynnwys yn ein ffioedd, ac mae Encil Awduron Nant, sef bwthyn rhestredig Gradd II* ar dir Tŷ Newydd, yn cynnig hafan dawel hunangynhwysol i’r rhai sy’n dymuno gweithio ar eu pennau eu hunain.”  

“Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael sy’n addas i wahanol gyllidebau a’r amser sydd gan awduron, ac rydyn ni’n cynnig ysgoloriaethau i sicrhau bod y profiadau a’n cyrsiau’n hygyrch i bawb sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau.”  

Mae rhaglen Dy Bennod Nesaf yn rhedeg rhwng mis Mawrth 2024 a mis Ionawr 2025. 

Gweler rhestr lawn o amrywiaeth o gyrsiau Tŷ Newydd yn 2024 ar ei wefan yma.