Diweddariad am Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
Gwe 28 Mai 2021 / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Diweddariad am Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
28 Mai 2021

Mae Bwthyn Encil Awduron Nant ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd nawr ar agor, ac yn derbyn archebion ar gyfer encilion. Bwthyn hunan-arlwyo â dwy ystafell wely yw Nant, ac fe gafodd ei adnewyddu yn ddiweddar i fod yn ofod cyffyrddus a moethus. Mae wedi ei leoli mewn man tawel a heddychlon ar gyrion Llanystumdwy – y lle perffaith i awduron encilio rhag bywyd bob dydd a chanolbwyntio ar eu hysgrifennu. Tra fod archebion yn brysur iawn dros yr haf, mae digon o ddyddiadau yn rhydd o fis Medi ymlaen.

Mae’r rhaglen o gyrsiau ysgrifennu preswyl yn Nhŷ Newydd yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd dros y byd, a dros y blynyddoedd diwethaf cawsom y pleser o groesawu gwesteion o ben draw’r byd, o Seland Newydd, o Ganada, o India ac yn nes adre – o sawl gwlad dros Ewrop. Bob blwyddyn, mae dros 400 o awduron o Gymru a thu hwnt yn cymryd rhan yn ein rhaglen datblygu awduron yn y ganolfan ac yn cael eu trochi yn y grefft o ysgrifennu creadigol. Mae ein canolfan ysgrifennu genedlaethol yn cyflwyno Cymru a’r Gymraeg i’r byd ac yn dod â’r byd i Gymru.

Rydym yn gweithio yn galed i sicrhau y gallwn ddychwelyd yn 2022 gyda rhaglen lawn o gyrsiau amrywiol a chyffrous sydd wedi ei threfnu yn ofalus. Mae cwrdd â phobl newydd a rhannu prosesau ysgrifennu creadigol ag eraill yn rhan greiddiol o brofiad Tŷ Newydd, ac edrychwn ymlaen i fedru gwneud hynny eto mewn modd diogel, creadigol a chynhwysol. Mae cynnig cyfleoedd i awduron a gaiff eu tangynrychioli ac awduron ar gychwyn eu gyrfaoedd yn flaenoriaeth i Llenyddiaeth Cymru. Drwy gynnig ysgoloriaethau a phennu lleoedd am ddim ar ein cyrsiau, byddwn yn sicrhau fod awduron o gefndiroedd incwm isel ac o gymunedau â gaiff eu tangynrychioli yn cael profi hud Tŷ Newydd.

Yn y cyfamser, gobeithiwn gynnal ambell encil i grwpiau bychain cyn pen diwedd y flwyddyn, yn ogystal â’n encilion draw yn Nant i unigolion. Rydym hefyd yn gobeithio cydweithio â’r gymuned leol i ddarparu lleoliad i gwrdd a chynnal digwyddiadau. Cysylltwch â ni os oes diddordeb gennych chi mewn dod â grŵp i’r ganolfan. Efallai eich bod yn elusen lleol, yn grŵp coleg neu brifysgol, yn glwb darllen neu ysgrifennu, neu yn grŵp o artistiaid sydd yn gweithio ar brosiect ar y cyd. Gallwn drafod eich anghenion, a chynnig opsiynau unigryw am encilion addas neu man cwrdd diogel.

Cadwch lygad yn ogystal am newyddion am raglen newydd o gyrsiau blasu digidol a fydd yn digwydd yn yr hydref. Mae’r cyrsiau byr yma yn gwerthu yn sydyn, ac yn cynnwys amrediad o diwtoriaid amrywiol sydd yn gweithio mewn amryw thema a genre.

Am wybodaeth bellach am gyfleoedd datblygu awduron Llenyddiaeth Cymru, ewch draw i’n tudalen gyfleoedd. Neu am ragor o wybodaeth am Dŷ Newydd neu brosiect arall, cysylltwch â ni: post@llenyddiaethcymru.org

Gobeithio y cawn eich gweld chi yn ein cartref prydferth yn Llanystumdwy yn fuan. Tan hynny, cadwch yn ddiogel a daliwch ati â’r ysgrifennu.