Diwrnod Agored 2018
Iau 23 Awst 2018 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Diwrnod Agored Tŷ Newydd 2018

Dydd Sul 16 Medi, 10.30 am – 4.30 pm

Dewch draw i’n gweld ni yn ystod ein diwrnod agored. Bydd croeso cynnes yma, a chyfle am deithiau tywys o amgylch y tŷ; gwybodaeth am ein cyrsiau a’n gwasanaethau; lobsgows, cacen neu baned o gegin Tony a chyfle i weld gweithiau celf yr ardd. Croeso cynnes i bawb.