Diwrnod Hyfforddiant i Athrawon Cynradd
Gwe 11 Hydref 2024 / Cyfleoedd, Digwyddiadau
Diwrnod hyfforddiant am ddim wedi ei ariannu gan EDAU.
Cyfle gwych i athrawon ysgol gynradd baratoi ar gyfer y cwricwlwm dysgu creadigol newydd.
Bwriad y dydd yw annog, ysbrydoli, ennyn diddordeb a datblygu eich defnydd o’r cefldyddydau o ddydd i ddydd yn yr ystafell ddosbarth.
- Cyflwyniad i EDAU – y rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg newydd ar gyfer gogledd Cymru
- Sesiynau hyfforddiant creadigrwydd gydag arweinwyr celfyddydol profiadol
- Cinio â thema Santes Dwynwen
- Llenyddiaeth Cymru a sefydliadau celfyddydol allweddol eraill yn rhannu eu newyddion a’u cynigion i ysgolion
Er mwyn cofrestru, cysylltwch â Mared Roberts yn Nhŷ Newydd ar 01766 522811 / mared@llenyddiaethcymru.org