Dydd Gŵyl Dewi
      
    
      
        Iau 1 Mawrth 2018          / Cyfleoedd, Uncategorized @cy         / 
Ysgrifennwyd gan
 Tŷ Newydd         
      
      Dydd Gŵyl Dewi hapus gan bawb o Llenyddiaeth Cymru. I ddathlu diwrnod ein Nawddsant, dyma wneud y pethau bychain a chynnig gostyngiad o 10% oddi ar ein ffioedd ar gyfer cyrsiau 2018.*
Mae’n holl gyrsiau i’w gweld ar ein gwefan, ac yn dechrau o £35 y pen. Defnyddiwch Dewi18 wrth archebu ar y wefan neu soniwch am y gostyngiad wrth archebu dros y ffôn. Mae’r gostyngiad yn ddilys hyd at 12.00 hanner nos 15 Mawrth 2018.
*Nid yw’r cod yn ddilys ar gyfer Dosbarthiadau Meistr. Mae’r cynnig hwn yn ddilys ar gyfer archebion newydd, a nid yw’r cynnig hwn yn effeithio ar archebion sydd wedi dod i law eisoes.