Garden Force yn arddull Tŷ Newydd
Maw 17 Mai 2016 / Ysgrifennwyd gan Gwen

Yn ddiweddar bu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn llwyddiannus mewn cais am grant Grow Wild o £500 gan Erddi Botaneg Kew i drawsnewid darn gwyllt o dir yma yn Llanystumdwy yn ardd.

Ar 1 Mehefin bydd criw o bobl ifanc o Gisda, sefydliad sydd yn cefnogi pobl ifanc bregus a digartref yng Ngwynedd, yn dod i Dŷ Newydd i glirio, tocio, palu, a chael y darn gwyllt o dir yn barod i blannu, tyfu ac i harddu’r ardd unwaith eto. Y gobaith yw plannu coed, blodau a gwrychoedd cynhenid i Gymru yn yr ardd, a chreu llwybr drwyddi. Bydd y bobl ifanc yn adeiladu seddi pren, bocs compost, bocsys adar, gwenyn ac ystlumod, yn paentio’r hen sied flêr. Bydd gweithdy yn cael ei drefnu i’r bobl ifainc hefyd gyda bardd lleol, a bydd llinellau o’r cerddi a gaiff eu hysgrifennu yn cael eu paentio ar waliau’r sied.

Bydd yr ardd wyllt yn hafan i adar bach, gwenyn, ystlumod, tylluanod ac i awduron sy’n dod i Dŷ Newydd ar gyrsiau. Bydd yn le gael llonydd i ysgrifennu, i feddwl, i nythu, i gysgu, i ymlacio ac i gath Tŷ Newydd gael chwarae!
Dyma luniau o’r darn gwyllt cyn i’n garddwr lleol, Elis Gwyn, ddod i dorri gwrychoedd a thocio drain.

Cadwch lygad ar ein gwefan am luniau ar ôl gwaith criw Gisda.

Yr ardd wyllt cyn clirio
Yr ardd wyllt cyn ei thaclo
Gardd wyllt
Gardd wyllt
Pws
Y Gath yn chwarae yn yr ardd wyllt