Gor-wyres Lloyd George ar gwrs yn Nhŷ Newydd
Maw 8 Mai 2018 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Mae pawb yn ymwybodol o’r cysylltiad rhwng Tŷ Newydd a’r cyn Brif Weinidog David Lloyd George, siawns? Os ddim, cliciwch yma i ddarllen yr hanes. Braf felly oedd croesawu gor-wyres Lloyd George yma ym mis Ebrill 2018. Daeth Lara Prior-Palmer yma ar gyfer Dosbarth Meistr Barddoniaeth Gillian Clarke a Carol Ann Duffy, a braf oedd darganfod y cysylltiad unigryw oedd ganddi gyda’r tŷ.

I ddysgu mwy am Lara a’i barddoniaeth, dyma ofyn iddi ateb ei holiadur pum munud:

Beth yw’ch perthynas chi â Thŷ Newydd? A’i dyma fydd y tro cyntaf i chi ymweld â ni?

Fy nghyfnither, Anita (George-Carey  – bardd a hanner!), ddywedodd fod rhaid i mi fynd i Dŷ Newydd er mwyn dod i adnabod fy ngwreiddiau Cymreig yn well. Doeddwn i methu credu’r ffaith bod y tŷ ble fu farw Lloyd George bellach yn gartref i lenyddiaeth yng Nghymru – mae’n wych!

Fel awdur, oes gennych chi fan neu lecyn penodol y byddwch chi’n mynd yno i ysgrifennu?

Yr awyr? Allai ddim ‘sgwennu mewn un lle am amser hir. Dwi’n dechrau gwingo ac angen symud i wynebu cyfeiriad arall.

Ydych chi’n un o’r rheiny sydd yn dilyn routine penodol? Rheol o ysgrifennu rhywbeth bob dydd; beiro benodol; terfyn geiriau?

Allwch chi’m mynd o’i le hefo beiros cyffredin. Maen nhw’n gweithio’n wych ac mi allwch chi eu prynu mewn bocsys enfawr felly tydi hi ddim yn ddiwedd y byd os oes un yn mynd ar goll.

Beth yw eich hoff lyfr neu gyfrol?

Dwi’n dal i chwilio am fy hoff lyfr…

Pe gallwch chi fod yn awdur ar unrhyw lyfr sydd wedi ei gyhoeddi, pa lyfr fyddai hwnnw?

Mi fyswn i wrth fy modd os mai fi oedd awdur un o’r llyfrau gwyddoniaeth anferthol ‘na oedd yn cael eu defnyddio yn yr ysgol.

Lara, yn dyheu am gael mwstas fel Lloyd George…!

Pe gallwch chi ddewis 3 awdur, byw neu farw, i ddod draw am swper, pa dri fuasech chi’n ei ddewis?

Yn amlwg, Carol Ann a Gillian, gan i mi gael gymaint o hwyl yn eu cwmni’r wythnos yma. Wedyn, mi fyddai’n rhaid i mi wahodd rhywun sy’n ‘sgwennu mewn iaith arall, fel Tomas Tranströmer, y bardd o Sweden a falle Olga Tockarczuk, yr awdur o Wlad Pwyl. Dwi’n diflasu ar Saesneg weithiau, ac wrth fy modd yn ei glywed gan rywun sydd ag iaith gyntaf arall – mae’n adfywio’r iaith i mi.

Pwy neu beth sy’n eich ysbrydoli chi i ‘sgwennu?

Y byd

Pe gallwch chi fod yn unrhyw gymeriad mewn llenyddiaeth o unrhyw fath, pwy fyddech chi, a pham?

Fury, y ceffyl o nofel H M Peel, Fury, Son of the Wilds. Mae o’n fywiog iawn.

Dyma gerdd hyfryd gan Lara, wedi ei hysgrifennu yma yn Nhŷ Newydd:

 

Ty Newydd’s Garden Chair

Twenty years ago now, the house spat me out

What was I to do, but exist in doubt

Of my body, my being, I’ve not been in charge

Blame the table inside—she judged me as large.

 

Yet I’m freer out here, and these days less shy—

My back shoots like a diving board up into sky.

The garden has layered me in clean, green love;

Come! house-fearing humans—I’m a full-body glove.