Gwahoddiad i Gynnig Tendr
Llu 26 Mawrth 2018 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Cytundeb llawrydd i gynnig gwasanaeth cynnal a chadw i safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Mae Llenyddiaeth Cymru’n chwilio am gontractwr neu unigolyn i weithio diwrnod yr wythnos ar gyfartaledd dros gyfnod yr haf i ddechrau, i ofalu am safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy. Bydd hwn yn gytundeb llawrydd. Mae’r tŷ a’r gerddi yn safleoedd rhestredig Gradd II* ac yn derbyn nifer fawr o ymwelwyr yn flynyddol. Mae hyn yn golygu fod angen cynnal a chadw cyson i sicrhau fod y safle yn ddiogel, yn gyffyrddus ac yn edrych ar ei orau.

Rydym yn chwilio am gontractwr neu unigolyn llawrydd sydd â phrofiad blaenorol o waith tebyg i ymgymryd â thasgau ymarferol yn y gerddi, a thasgau cynnal a chadw yn y tŷ yn ôl y galw. Bydd y cytundeb yn cynnwys y tasgau canlynol:

  • Tacluso’r gerddi, a gwaith garddio syml
  • Cadw llwybrau, y ffyrdd a’r meysydd parcio yn daclus ac yn ddiogel
  • Gofalu fod cyflwr allanol y tŷ yn dderbyniol
  • Tasgau peintio achlysurol
  • Ambell dasg lanhau
  • Tasgau cynnal a chadw syml, e.e. codi silffoedd, gosod fframiau lluniau, adeiladu dodrefn pecyn fflat
  • Cysylltu â chontractwyr allanol i gydlynu gwaith mwy cymhleth, yn ôl yr angen (e.e. plymiwr, trydanwr, adeiladwr)
  • Unrhyw dasgau eraill yn ôl y galw

Yn ddelfrydol (ond ddim yn angenrheidiol) byddai gan y contractwr neu’r unigolyn:

  • Fynediad at beiriant torri gwair diwydiannol
  • Sgiliau plymio a sgiliau trydanol elfennol
  • Offer ei hun i ymgymryd â’r tasgau uchod

Mae’n hanfodol fod gan yr unigolyn drwydded yrru llawn a’r defnydd o gar, a bydd raid i’r unigolyn llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

 

Amserlen a Lleoliad
Disgwylir i’r cytundeb ddechrau ym mis Mai, a bydd gofyn i’r contractwr neu’r unigolyn gwblhau diwrnod yr wythnos ar gyfartaledd hyd nes ddiwedd mis Hydref. Bydd modd trafod dyddiadau addas gyda Phennaeth Tŷ Newydd wrth drefnu’r cytundeb a bydd cynllun gwaith yn cael ei gytuno ar ddechrau’r cytundeb. Mae posib y bydd hyd y cytundeb yn cael ei ymestyn. Bydd y contractwr yn gweithio yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, LL52 0LW.

 

Ffi

Cyfanswm pris y cytundeb hwn yw: £70 y dydd (7 awr) (gan gynnwys TAW)

Bydd y ffi yn cael ei dalu yn fisol, o dderbyn anfoneb gan y contractwr llwyddiannus.

 

Sut i wneud cais a’r dyddiad cau
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn anfonwch lythyr neu ebost yn manylu’n glir sut yr ydych yn addas i’r swydd, drwy gyfeirio at brofiad blaenorol neu sgiliau perthnasol.

 

Dyddiad Cau: 5.00 pm, dydd Llun 23 Ebrill, 2018

 

Dylid cyflwyno cynigion, wedi eu  nodi’n glir gyda ‘Safle Tŷ Newydd – gwasanaeth cynnal a chadw: Cais Contractwr’ at:
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW / tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811

 

Hysbyseb Cytundeb Llawrydd – Gwasanaeth cynnal a chadw safle Tŷ Newydd