Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig gweithdai arbennig am y Rhyfel Byd Cyntaf i’r 15 ysgol gynradd gyntaf yng Ngwynedd fydd yn cysylltu i gofrestru.
Bydd y cynllun Cadwyn Heddwch yn cyfuno ysgrifennu creadigol gydag ymchwil hanesyddol, a’r nod ar ddiwedd y cynllun yw uno ysgolion cynradd Gwynedd trwy greu cadwyn o lythyrau yn hyrwyddo heddwch.
Gyda chymorth Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, a’r awduron nodedig Siân Northey a Manon Steffan Ros, bydd disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn ymchwilio yn fanwl i hanes unigolion lleol a chwaraeodd ran yn nhreftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf. Gall y cymeriadau hyn fod yn filwyr, yn wrthwynebwyr cydwybodol, yn nyrsus, neu yn aelodau o deulu a gafodd eu gadael ar ôl. Wedi’r gwaith ymchwil, bydd llythyrau â negeseuon heddychlon yn cael eu creu yn llais y cymeriadau hyn a’u gyrru i ysgolion eraill sy’n rhan o’r cynllun.
Wedi i’r cynllun ddod i ben, bydd gennym gofnod gwerthfawr o atgofion unigryw a allai fod wedi mynd yn angof fel arall. Byddwn hefyd wedi annog plant i ddysgu am dreftadaeth eu cymunedau lleol. Penllanw’r cynllun fydd arddangosfa o’r holl waith ar stondin Cymry dros Heddwch yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017.
Bydd cytuno i fod yn rhan o’r cynllun yn golygu:
– Derbyn ymweliad i’r ysgol gan un o’r tri awdur ar ddau achlysur gwahanol i dderbyn gweithdai ar hanes y Rhyfel Byd Cyntaf; sut i fynd ati i ymchwilio yn defnyddio’r we, holi pobl y pentref ac ysgrifennu at bapurau bro ac ati; a sut i ysgrifennu llythyr creadigol
– Trefnu gwibdaith ymchwil gyda’ch awdur i amgueddfa, archifdy, neu lecyn o bwys hanesyddol lleol o’ch dewis
– Gwneud gwaith ymchwil trylwyr i un unigolyn hanesyddol yn y gymuned, a chreu portffolio deniadol o waith, yn cynnwys ysgrifau a gwaith celf, sy’n cynnwys gwybodaeth amdanynt; cyfrannu’r wybodaeth i Gasgliad y Werin a chreu llythyr heddwch yn llais y cymeriad.
Llenyddiaeth Cymru fydd yn gyfrifol am yr holl gostau fydd ynghlwm â’r gwaith, yn cynnwys trafnidiaeth i’r amgueddfa neu archifdy, a chostau’r awduron.
Rydym yn estyn gwahoddiad i holl ysgolion cynradd y Sir i ymgeisio i fod yn rhan o’r cynllun unigryw hwn, ond does ond lle i 15 ysgol. Byddwn felly yn derbyn enwau ar sail y cyntaf i’r felin.
Er mwyn datgan eich diddordeb, neu am ragor o wybodaeth, gallwch e-bostio tynewydd@llenyddiaethcymru.org neu ffonio 01766 522 811.
Buom yn ddigon ffodus i dderbyn grant gan Dreftadaeth y Loteri i gynnal ein prosiect, a gaiff ei gynnal o dymor yr hydref eleni tan haf 2017. Nod rhaglen grantiau Treftadaeth y Loteri Rhyfel Byd Cyntaf: Ddoe a Heddiw yw rhoi cyfle i’r gymuned i ddod i ddeall y Rhyfel yn well, i ddarganfod ei storïau yn lleol, ac i edrych ar beth y mae yn ei olygu i ni heddiw.