Bydd yr ŵyl boblogaidd yn dychwelyd i Dŷ Newydd ym mis Chwefror 2017, gyda digonedd o ddanteithion barddonol ar eich cyfer. Yn ystod y penwythnos cawn sgyrsiau yng nghwmni rhai o enillwyr prif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016 a gwersi cynganeddu ar gyfer dechreuwyr pur a’r rhai mwy profiadol. Dewch i ymuno yn y noson gerdd a chân yn nhafarn y Plu gyda rhai o artistiaid gwerin mwyaf blaengar Cymru, bydd taith gerdded lenyddol yng nghwmni Twm Morys, cystadlaethau barddonol a lawer iawn mwy. Bydd llety gwely a brecwast ar gael yn Nhŷ Newydd am bris rhesymol. Cyhoeddir amserlen lawn yr ŵyl maes o law.
Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rannu ar ddigwyddiad Facebook yr ŵyl: https://www.facebook.com/events/101499870338624/
Dewch yn llu, bydd croeso cynnes i chi gyd yma yn Llanystumdwy.