Bydd 12 o awduron ifanc yn mentro i Dŷ Newydd y penwythnos hwn ar gyfer cwrs yng nghwmni Anni Llŷn fel rhan o brosiect Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2018, mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw.
Elan Grug Muse yw un o’r deuddeg awduron. Cafodd Elan ei magu yng nghysgod tomeni llechi Dyffryn Nantlle, ac mae bellach yn fyfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe. Enillodd Elan Gadair Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013, ac ym mis Mai eleni, cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth gyda chyhoeddiadau Barddas. Barddoniaeth a Rhyddiaith yw’r ffurfiau ysgrifennu y mae Elan yn fwyaf cyfarwydd â hwy, ond mae’n cydnabod y bydd y cynllun hwn yn ei galluogi i arbrofi ym myd y ddrama.
Er mwyn i ni ddod i’w hadnabod hi’n well, mae Grug wedi ateb ein holiadur pum munud:
Beth yw dy berthynas di â Thŷ Newydd? A’i dyma fydd y tro cyntaf i ti ymweld â ni?
Rydw i wedi ymweld amryw o weithiau dros y blynyddoedd, efo sgwadiau sgwennu, cyrsiau Olwen a’r cwrs cynganeddu
Fel awdur, oes gen ti fan neu lecyn penodol y byddi di’n mynd yno i ysgrifennu?
Mewn caffis neu barciau cyhoeddus os fedra i.
Wyt ti’n un o’r rheiny sydd yn dilyn routine penodol? Rheol o ysgrifennu rhywbeth bob dydd; beiro benodol; terfyn geiriau?
Nac ydw
Beth yw dy hoff lyfr neu gyfrol?
Fdkhsglkdjfgsdnasd!
Pe gallit ti fod yn awdur ar unrhyw lyfr sydd wedi ei gyhoeddi, pa lyfr fyddai hwnnw?
The unbearable lightness of being gan Milan Kundera
Pe gallit ti ddewis 3 awdur, byw neu farw, i ddod draw am swper, pa dri fuaset ti’n eu dewis?
Federico Garcia Lorca, Gwerful Mechain a Milan Kundera
Pe gallit ti fod yn unrhyw gymeriad mewn llenyddiaeth o unrhyw fath, pwy fyddet ti, a pham?
Luned Bengoch, achos mae hi yn cael mynd ar anturiaethau anhygoel
Pe gallit ti fynd yn ôl mewn amser i gwrdd ag unrhyw unigolyn o hanes Cymru, pwy fyddai’r unigolyn hwnnw / honno a pham?
Gwenllïan, y dywysoges fu farw yn amddiffyn castell Cydweli rhag byddin Normanaidd. Swnio fel coblyn o ddynes.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan www.gwylhanes.cymru