Gŵyl Hanes Cymru i Blant: Mared Llywelyn Williams
Gwe 8 Medi 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Bydd 12 o awduron ifanc yn mentro i Dŷ Newydd y penwythnos hwn ar gyfer cwrs yng nghwmni Anni Llŷn fel rhan o brosiect Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2018, mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw.

Mared Llywelyn Williams yw un o’r 12 awdur. Astudiodd Mared, sy’n byw ym Morfa Nefyn, fodiwl Theatr Mewn Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a sbardunodd hynny ei diddordeb yn y maes. Mae Mared yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Tebot – cwmni amateur sy’n dod ag unigolion ynghyd sydd â diddordeb ym maes sgwennu, actio a chyfarwyddo. Teimlai Mared a’i ffrindiau fod cymaint o gwmniau drama amateur wedi diflannu o’u hardal, ac felly roedd yn bryd iddyn nhw greu rhywbeth eu hunain. Mared yw prif ddramodydd Eisteddfod Penybont, Taf ac Elai 2017.

Er mwyn i ni ddod i’w hadnabod hi’n well, mae Mared wedi ateb ein holiadur pum munud:

Beth yw dy berthynas di â Thŷ Newydd? A’i dyma fydd y tro cyntaf i ti ymweld â ni?

Rydw i wedi mynychu cwrs Olwen, cwrs sgriptio, a chwrs cynganeddu wythnosol. Rydw I hefyd yn rhan o gylch darllen! Wastad yn braf dod draw!

Fel awdur, oes gen ti fan neu lecyn penodol y byddi di’n mynd yno i ysgrifennu?

Nunlla rhamantus. Gyda laptop poeth ar fy nglin, sbectols a gwallt seimllyd a tua 20 paned o de fel arfar!

Wyt ti’n un o’r rheiny sydd yn dilyn routine penodol? Rheol o ysgrifennu rhywbeth bob dydd; beiro benodol; terfyn geiriau?

Dwi’n dueddol o fod funud olaf bob tro, a gweithio’n gynt o dan bwysau. Ac yn y nos a’r oriau mân fel arfer.

Beth yw dy hoff lyfr neu gyfrol?

Cwestiwn anodd. Dwi’n cofio gwirioni ar Gysgod y Cryman ac Yn Ôl I Leifior. Ond mae lle arbennig i Un Nos Ola Leuad hefyd.

Pe gallit ti fod yn awdur ar unrhyw lyfr sydd wedi ei gyhoeddi, pa lyfr fyddai hwnnw?

Sarah Kane: Complete Plays

Pe gallit ti ddewis 3 awdur, byw neu farw, i ddod draw am swper, pa dri fuaset ti’n eu dewis?

Dafydd ap Gwilym, Manon Steffan Ros a Raymond Carver.

Pe gallit ti fod yn unrhyw gymeriad mewn llenyddiaeth o unrhyw fath, pwy fyddet ti, a pham?

Faswn wrth fy modd yn cael bod yn Luned Bengoch, ond penfrown ydw i yn anffodus.

Pe gallit ti fynd yn ôl mewn amser i gwrdd ag unrhyw unigolyn o hanes Cymru, pwy fyddai’r unigolyn hwnnw / honno a pham?

Llywelyn ap Gruffydd, neu Llywelyn Ein Llyw Olaf. Faswn yn gofyn wrtho fo fy medyddio yn afon Irfon.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan www.gwylhanes.cymru