Bydd 12 o awduron ifanc yn mentro i Dŷ Newydd y penwythnos hwn ar gyfer cwrs yng nghwmni Anni Llŷn fel rhan o brosiect Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2018, mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw.
Sion Emyr yw un o’r 12 awdur. Actor ifanc yn wreiddiol o Benisarwaun ac sydd bellach yn byw yn Llundain. Bu Sion yn rhan o gast Rownd a Rownd am flynyddoedd cyn penderfynu mynd I astudio drama yn Mountview Academy of Theatre and Arts. Ar hyn o bryd, ma Sion Emyr yn brysur yn teithio ysgolion cynradd Cymru gyda chwmni ‘Mewn Cymeriad’ yn portreadu’r arwr Hedd Wyn.
Er mwyn i ni ddod i’w adnabod yn well, mae Sion wedi ateb ein holiadur pum munud:
Beth yw dy berthynas di â Thŷ Newydd? A’i dyma fydd y tro cyntaf i ti ymweld â ni?
Dyma fydd y tro cyntaf i mi ymweld a Thŷ Newydd – edrych ymlaen yn fawr!
Fel awdur, oes gen ti fan neu lecyn penodol y byddi di’n mynd yno i ysgrifennu?
Nunlle penodol. Rhywle sydd ddigon prysur. Digon o bobl a phethau’n digwydd o nghwmpas i. Mewn caffi ar stryd brysur yn Llundain.
Wyt ti’n un o’r rheiny sydd yn dilyn routine penodol? Rheol o ysgrifennu rhywbeth bob dydd; beiro benodol; terfyn geiriau?
Dim o gwbl. Dwi’n cael fy syniadau gorau tra dwi’n dreifio, sy’n boen braidd. Felly, ysgrifennu pan dwi’n cael cyfle neu pan mae gen i hadyn syniad. Byth yn gorfodi’n hun i ysgrifennu.
Beth yw dy hoff lyfr neu gyfrol?
Dwi wrth y modd gyda Khaled Hosseini – ‘Kite Runner’, ‘And The Mountains Echoed’ a ‘A Thousand Splendid Suns’. Dwi’n darllen dramau cyfoes yn aml.
Pe gallit ti fod yn awdur ar unrhyw lyfr sydd wedi ei gyhoeddi, pa lyfr fyddai hwnnw?
The Hundred-Year-Old Man Who Climbed Out the Window and Disappeared.
Pe gallit ti ddewis 3 awdur, byw neu farw, i ddod draw am swper, pa dri fuaset ti’n eu dewis?
Stieg Larsson, Truman Capote, J.K Rowling
Pe gallit ti fod yn unrhyw gymeriad mewn llenyddiaeth o unrhyw fath, pwy fyddet ti, a pham?
Sherlock Holmes – cymeriad gwych
Pe gallit ti fynd yn ôl mewn amser i gwrdd ag unrhyw unigolyn o hanes Cymru, pwy fyddai’r unigolyn hwnnw / honno a pham?
Owain Glyndwr – dewis amlwg. Saunders Lewis a Dafydd ap Gwilym yn agos i’r brîg hefyd.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan www.gwylhanes.cymru