Lansiad Llyfr: cylymau tywod / knots of sand
Mer 15 Tachwedd 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Lansiad Llyfr: cylymau tywod / knots of sand gan John Rowlands
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW
7.30 pm nos Iau 23 Tachwedd
Croeso cynnes i bawb

Bydd John Rowlands o Dremadog yn darllen haiku a senryu o’i gasgliad diweddar cylymau tywod/knots of sand (Alba Publishing, 2017). Cyhoeddwyd nifer o’r cerddi yn rhyngwladol mewn cylchgronau haiku ac arlein. Fel rhan o’r noson, bydd Gwyneth Glyn a Twm Morys yn bresennol i’ch diddanu a bydd copïau o’r llyfr ar werth ynghyd â chasgliad o Ffoto-Haiku.

Cysylltwch am fwy o wybodaeth: tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522811