Llenyddiaeth Cymru a’r Coronafeirws – 18.3.2020
Mer 18 Mawrth 2020 / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Wedi ei ddiweddaru ar 3 Ebrill 2020

Gyda’r canllawiau diweddaraf ynglŷn â COVID-19 yn awgrymu y dylem oll osgoi cyswllt cymdeithasol am y 12 wythnos nesaf, mae Llenyddiaeth Cymru wedi penderfynu cau ei swyddfeydd yng Nghaerdydd a Thŷ Newydd, a gohirio unrhyw weithgaredd yr ydym yn ei gyflawni’n uniongyrchol lle bydd pobl yn dod i gyswllt â’i gilydd. Mae’r sefyllfa yn newid yn gyson, felly byddwn yn cadw llygad craff ar y datblygiadau ac yn cyfathrebu unrhyw newidiadau am ein sefyllfa yma yn Llenyddiaeth Cymru.

Rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio neu ganslo cyrsiau ac encilion sydd ar droed yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd hyd nes gychwyn Gorffennaf 2020 ar hyn o bryd, ond byddwn yn dilyn cyngor y Llywodraeth ar pa bryd y bydd yn ddiogel ail agor. Ni fu’n benderfyniad hawdd gan ei fod yn golygu y bydd ergyd ariannol sylweddol i’r sefydliad. Serch hynny rydym am flaenoriaethu iechyd a diogelwch ein staff a’r holl ymwelwyr â’r Ganolfan.

Bydd mynychwyr cyrsiau yn derbyn ad-daliad llawn, neu’r opsiwn i dderbyn eu ad-daliad ar ffurf taleb i’w ddefnyddio yn Nhŷ Newydd yn y dyfodol. Byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r holl diwtoriaid a phob unigolyn sydd wedi archebu lle ar gwrs sydd wedi ei ohirio.

I ddarllen y canllawiau diweddaraf ar COVID-19, gweler yr adran Y Canllawiau Diweddaraf tua diwedd y dudalen hon.

Bydd ein staff i gyd yn gweithio o adref o heddiw (dydd Mercher 18 Mawrth) tan y nodir yn wahanol. Mae llesiant ein staff yn flaenoriaeth inni, serch hynny ni fydd y trefniant hwn o weithio o adref yn golygu y bydd ein gwasanaethau’n lleihau ac ni fydd ein gweithdrefnau’n pallu.

Rydym yn ymwybodol iawn ein bod yn wynebu cyfnod eithriadol o bryderus, a hynny yn nhermau ein iechyd a’n llesiant meddyliol a chorfforol fel unigolion a chymunedau, ac yn arbennig felly i’r rheini sy’n dibynnu ar incwm llawrydd. Byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol gydag awduron, hwyluswyr a phartneriaid sydd ynghlwm â’n prosiectau penodol i drafod y camau nesaf.

Gweler diweddariadau penodol am rai o’n gweithgareddau a’n gweithdrefnau mewnol isod, ond mae croeso cynnes ichi gysylltu gydag unrhyw ymholiadau neu bryderon penodol am sut y gall yr wythnosau a’r misoedd nesaf eich heffeithio chi a’ch cymuned lenyddol.

Gallwch gysylltu â ni trwy ein ebost arferol:  tynewydd@llenyddiaethcymru.org 

 


Gweithdrefnau Ariannol

Yn dilyn ein penderfyniad i gau swyddfeydd Llenyddiaeth Cymru yn sgil haint COVID-19, hoffem sicrhau fod pob awdur, sefydliad a phartner yr ydym yn gweithio â hwy yn cael eu talu am wasanaethau yn gywir ac ar amser. Er mwyn gallu gwneud hynny, gofynnwn fod unrhyw un sydd wedi cwblhau gwaith i ni yn ddiweddar yn anfon anfonebau yn electronig dros ebost at eu prif gyswllt yn y sefydliad. Dylai pob anfoneb gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Enw a chyfeiriad
  • Dyddiad yr anfoneb neu ddyddiad cyflawni’r gwaith
  • Disgrifiad o’r gwasanaethau a ddarparwyd, wedi ei eitemeiddio os yn berthnasol e.e. ffi ar gyfer digwyddiad – £100, costau teithio – 50 milltir ar raddfa 25c/milltir – £12.50
  • Copïau o dderbynebau ar gyfer unrhyw dreuliau (gallwn dderbyn lluniau os nad oes gennych chi sganiwr)
  • Y cyfanswm sy’n daladwy
  • Manylion banc – ni fydd modd i ni dalu trwy siec am y tro

Os nad oes gennych chi gyfeiriad ebost ar gyfer eich prif gyswllt o fewn y sefydliad, gallwch anfon anfonebau at post@llenyddiaethcymru.org at eu sylw. Os ydych chi wedi anfon anfoneb yn ddiweddar, cynghorir chi i gysylltu â’r Swyddog Cyllid a’ch prif gyswllt i wirio statws eich taliad, rhag ofn y bydd angen anfon copi ychwanegol.

Dylid anfon ceisiadau Awduron ar Daith at awduronardaith@llenyddiaethcymru.org

 

Cefnogaeth i Awduron

Rydym yn gweithio gyda’n arianwyr a’n partneriaid i ystyried sut y gallwn gefnogi ein cleientiaid yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd dwys. Dros y diwrnodau nesaf byddwn yn cyhoeddi galwad agored am waith comisiwn digidol i awduron sy’n wynebu anawsterau ariannol. Byddwn yn rhyddhau gwybodaeth ar ein gwefan ac ar ein rhwydweithiau cymdeithasol (ceir dolenni perthnasol ar waelod y dudalen).

Yn y cyfamser, gall y sefydliadau isod gynnig cymorth i’r rheini sydd ei angen ar fyrder:

Royal Literary Fund
Mae’r Royal Literary Fund yn elusen sydd wedi helpu awduron ers 1790. Mae’n darparu grantiau a phensiynau i awduron mewn anawsterau ariannol: https://www.rlf.org.uk/

The Society of Authors
Undeb llafur i awduron, darlunwyr a chyfieithwyr llenyddol yw’r SoA, sy’n eu cefnogi ar bob cam o’u gyrfa: https://www.societyofauthors.org/Grants/contingency-funds

Cyngor Celfyddydau Cymru
Yn eu datganiad mwyaf diweddar, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cynnwys gwybodaeth am gefnogaeth i weithwyr llawrydd yn y celfyddydau: https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/ymateb-i-coronafeirws-covid-19

 

 

Gwobr Llyfr y Flwyddyn

Byddwn yn asesu’r sefyllfa yn ofalus dros yr wythnosau nesaf er mwyn penderfynu a fydd yn bosib i Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn ddigwydd fel a gynlluniwyd. Serch hynny, er mwyn parhau â’n nod o gefnogi awduron a chyhoeddwyr Cymru, a dathlu ein doniau llenyddol, ein gobaith yw peidio gorfod addasu amserlen y wobr, sef cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn ar ddydd Llun 11 Mai 2020, a cyhoeddi enillwyr y wobr ar ddydd Iau 25 Mehefin 2020.

 

Y Canllawiau Diweddaraf

Bydd y dolenni canlynol yn eich cyfeirio chi at y canllawiau mwyaf diweddar parthed COVID-19:

Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/topic/980/latest
Llywodraeth y DU: https://www.gov.uk/government/topical-events/coronavirus-covid-19-uk-government-response
Cyngor Celfyddydau Cymru: https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/ymateb-i-coronafeirws-covid-19


Cadw mewn cysylltiad â Llenyddiaeth Cymru:

Gwefan: www.llenyddiaethcymru.org
Ebost: post@llenyddiaethcymru.org
Twitter: https://twitter.com/LlenCymru|https://twitter.com/LitWales
Facebook: https://www.facebook.com/LlenCymruLitWales/
Instagram: https://www.instagram.com/llencymru_litwales/