Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi rhaglen newydd o gyrsiau digidol Tŷ Newydd
Mer 16 Rhagfyr 2020 / , , , / Ysgrifennwyd gan Llenyddiaeth Cymru

Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi rhaglen newydd sbon o gyrsiau blasu Tŷ Newydd i’ch ysbrydoli yn ystod misoedd cyntaf 2021. Bydd yr wyth cwrs rhithiol byr yn digwydd dros ginio ar brynhawniau Gwener yn y flwyddyn newydd, ac yn mynd ar wibdaith o amgylch sawl pwnc a genre gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, i’ch annog i gychwyn, neu barhau, â’ch ysgrifennu creadigol.

Bydd y cyrsiau yn rhoi blas ar yr hyn sydd i’w gynnig gan Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd fel rheol, gan obeithiwn y gallwn groesawu ein hawduron yn ôl i Lanystumdwy i fwynhau cyrsiau datblygu awduron wyneb yn wyneb yn fuan pan y bydd yn ddiogel i ail-agor.

 

Y Rhaglen

Yn y Gymraeg, bydd llenyddiaeth plant a phobl ifanc yn cael sylw dan arweiniad Y Prifardd Mererid Hopwood fydd yn edrych ar ysgrifennu barddoniaeth addas i blant, ac Elidir Jones – wrth iddo rannu ei gyfrinachau am sut i fynd ati i greu nofel antur addas i bobl ifanc yn dilyn ennill categori Llyfrau Plant a Phobl Ifanc Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020. Bydd y chwedleuwr ac enillydd gwobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn 2019, Fiona Collins, yn rhoi cyflwyniad i’r grefft o chwedleua i ddysgwyr Cymraeg ag i siaradwyr rhugl; a bydd y nofelydd poblogaidd Llwyd Owen yn gosod rheolau’r nofel drosedd dan y chwyddwydr.

Pan fyddwch wedi syrffedu ar ffilmiau Nadolig a’r llyfrau newydd yn eich hosan, cofiwch hefyd fod cyfres o wyth gwers gynganeddu i ddechreuwyr ar gael i’w gwylio yma ar ein sianel YouTube. Y Prifardd Aneirin Karadog sydd yn ein tywys drwy reolau sylfaenol y gynghanedd yn y fideos syml, hawdd-i’w-dilyn yma a drefnwyd ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a Barddas. Beth am wneud addewid Blwyddyn Newydd i fentro i fyd y gerdd dafod yn 2021?

I arwain ein cyrsiau blasu drwy gyfrwng y Saesneg fydd enillydd Not the Booker Prize The Guardian, Richard Owain Roberts; y bardd poblogaidd Marvin Thompson; creawdwr y darn o farddoniaeth MWYAF yng Nghymru, Gwyneth Lewis, ag awdur sawl nofel drosedd, Katherine Stansfield.

Hefyd, fel tamaid i aros pryd, pleser yw lansio un cwrs rhithiol pum diwrnod o hyd dan ofal y tiwtoriaid a’r nofelwyr profiadol Tom Bullough a Tiffany Murray. Bydd y ddau yn rhoi arweiniad manwl ar sut i gychwyn ysgrifennu nofel – a byddwn yn ceisio ail-greu naws arbennig cyrsiau Tŷ Newydd o adref. Byddwn yn lansio rhagor o gyrsiau rhithiol yn y flwyddyn newydd. I fanteisio ar ostyngiad o 20% oddi ar bris y cwrs hir hwn, defnyddiwch y cod Nadolig2020 wrth archebu eich lle. Bydd y cod yn ddilys tan 5.00 pm ar 8 Ionawr 2021.

I bori drwy gynnwys y cyrsiau a bywgraffiadau’r tiwtoriaid, ac i archebu eich lle, ewch draw i’n gwefan: www.tynewydd.cymru. Mae llefydd yn gyfyngedig, felly archebwch yn fuan i osgoi siom.

Noder os gwelwch yn dda y bydd staff Llenyddiaeth Cymru yn cymryd hoe o brynhawn Noswyl y Nadolig tan ddydd Llun 4 Ionawr 2021, ac y byddwn yn cydnabod archebion ar ôl dychwelyd.