Llenyddiaeth Cymru yn dathlu Dydd Santes Dwynwen
Llu 14 Ionawr 2019 / , / Ysgrifennwyd gan Llenyddiaeth Cymru

Ddydd Gwener 25 Ionawr, ar ddydd Santes Dwynwen, bydd Llenyddiaeth Cymru yn darparu gwasanaeth llatai i 50 o gariadon Cymru a thu hwnt, a hynny yn rhad ac am ddim. Dwynwen yw nawddsant cariadon Cymru.

Yn ôl yr hanes yr oedd Dwynwen mewn cariad â Maelon. Ceisiodd Maelon gymryd mantais ohoni a gwnaeth dri chais mewn gweddi. Yn gyntaf, gofynnodd ar Dduw i ryddhau Maelon. Yn ail, gofynnodd i Dduw ateb ei gweddïau dros gariadon fel y buasent, naill ai’n cael dedwyddwch parhaol os oeddent yn caru yn gywir o’r galon, neu yn cael eu hiacháu o’u nwyd a’u traserch. Yn drydydd gofynnodd am beidio â dymuno priodi byth. Ar ôl i’w dymuniadau gael eu gwireddu, daeth Dwynwen yn nawddsant y cariadon. Bu Dwynwen fyw yn Llanddwyn hyd ei marwolaeth yn 460 OC.

Dathlodd y prosiect hwn ei ben-blwydd yn ddeg oed y llynedd, ac y mae wedi cynnal fflam cannoedd o gariadon ar hyd a lled y wlad dros y blynyddoedd. Eleni, geiriau a gwaith celf yr artist Manon Awst fydd ar y cardiau, a bydd nifer cyfyngedig ohonynt ar gael.

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn anfon y cardiau ar eich rhan at eich enaid hoff gytûn.

I archebu, cysylltwch â ni gyda’r manylion isod:

  • Enw a chyfeiriad y sawl sydd i dderbyn y cerdyn
  • Eich enw chi (neu cewch aros yn ddienw pe dymunwch)
  • Unrhyw neges yr hoffech i ni ei gynnwys

Y dyddiad cau ar gyfer archebu cerdyn yw dydd Mawrth 22 Ionawr. Byddwn yn postio’r cardiau ar y dydd Mawrth hwnnw ac yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb i’r Post Brenhinol. Gan mai nifer cyfyngedig o gardiau sydd ar gael, byddwn yn cynnig gwasanaeth e-gerdyn hefyd (i’w danfon dros e-bost). Os am archebu e-gerdyn, cysylltwch yn yr un modd gyda’r manylion perthnasol os gwelwch yn dda.

Anfonwch eich manylion draw at tynewydd@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch 01766 522 811 am ragor o wybodaeth.

Noder os gwelwch yn dda: Mae’r gwasanaeth hwn yn un rhad ac am ddim. Ni allwn warantu fod y cerdyn yn cyrraedd erbyn 25 Ionawr, ond byddwn yn postio pob cerdyn gyda stamp ail ddosbarth ar ddydd Mawrth 22 Ionawr.