• Llun:  Ynys Llanddwyn - Mike Ridley
Llenyddiaeth Cymru yn Llatai i Gariadon Cymru
Iau 11 Ionawr 2018 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Ddydd Iau 25 Ionawr, ar ddydd Santes Dwynwen, bydd Llenyddiaeth Cymru yn darparu gwasanaeth llatai i 50 o gariadon Cymru a thu hwnt, a hynny yn rhad ac am ddim.

Ruth Williams, patrwmruth

Mae’r prosiect hwn yn 10 mlwydd oed eleni ac wedi cynnal fflam canoedd o gariadon ar hyd a lled y wlad dros y blynyddoedd. Eleni, geiriau’r gantores amryddawn Lleuwen Steffan sydd ar y cerdyn gyda gwaith celf gan yr artist ifanc o Bwllheli, Ruth Williams. Bydd nifer cyfyngedig (50) o gardiau ar gael, a bydd Llenyddiaeth Cymru yn anfon y cardiau at eich enaid hoff gytun ar eich rhan.

Lleuwen Steffan

I archebu, cysylltwch â ni gyda’r manylion isod:

  • Enw a chyfeiriad y sawl sydd i dderbyn y cerdyn
  • Eich enw chi (neu cewch aros yn ddienw pe dymunwch)
  • Unrhyw neges yr hoffech i ni ei gynnwys

Y dyddiad cau ar gyfer archebu cerdyn yw dydd Llun 22 Ionawr. Byddwn yn postio’r cardiau ddydd Mawrth ac yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb i’r Post Brenhinol. Gan mai nifer cyfyngedig o gardiau sydd ar gael, byddwn yn cynnig gwasanaeth e-gerdyn hefyd (i’w ddanfon dros e-bost). Os am archebu e-gerdyn, cysylltwch yn yr un modd gyda’r manylion perthnasol os gwelwch yn dda.

Anfonwch eich manylion draw at tynewydd@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch 01766 522 811 am sgwrs.