Llwyddiant Martha Puw yn Eisteddfod Sir Conwy
Maw 1 Hydref 2019 / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Bu Martha Grug Puw o Gaernarfon yn fuddugol am ysgrifennu barddoniaeth oedran ysgol gynradd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, yn Llanrwst eleni. Enillodd Dlws Pat Neill am ysgrifennu cerdd o dan y thema ‘Fy Ffrind Gorau’ gan lunio cerdd am ei thaid, y diweddar Dan Puw.

 

Derbyniwyd 223 o geisiadau i’r gystadleuaeth ac roedd Anni Llŷn fel beirniad yn “chwilio am gyffyrddiadau personol, am haenen ychwanegol i’r disgrifio ac am dinc o wreiddioldeb” yn y gwaith. Dywedodd Anni fod y gerdd wedi cyffwrdd ei chalon “am i’r bardd fynd ar ôl atgofion ac emosiynau i wneud yn siŵr ein bod ni’n dod i adnabod ei ffrind gorau heb ein boddi gyda disgrifiadau arwynebol. Dyma’r unig gerdd a oedd yn cynnig rhywfaint o stori a thaith. Llongyfarchiadau mawr.” Trefnwyd y gystadleuaeth gan Barddas a derbyniodd Martha’r wobr yn ystod Ymryson y Beirdd yn y Babell Lên ar ddydd Iau’r Eisteddfod.

 

Bu Martha’n aelod o Sgwad ‘Sgwennu Tŷ Newydd ers dwy flynedd yng Ngwynedd ac mi fynychodd y sesiwn gyntaf o’r Sgwad ‘Sgwennu newydd Llenyddiaeth Cymru wythnos ddiwethaf.

 

Dyma’r gerdd fuddugol gan Martha;

 

Atgofion

 

Ar ddechrau pob gwyliau rwy’n edrych ymlaen

At blygu fy nillad a phacio fy magiau

A theithio am oriau dros fynydd a waun

I aros am ‘chydig gyda’m ffrind gorau.

 

Rwy’n codi yn gynnar i’w ddeffro yn hy,

Ond yno yn smala mae’n darllen ers oriau,

Rwy’n bwyta fy mrecwest cyn gofyn yn glên

I chwarae am ‘chydig gyda’m ffrind gorau.

 

Y fo yw pencampwr yr Yatzee a’r ‘Tŵr’*

A minnau’n ymdrechu a thrio fy ngorau

“Heb obaith caneri!”, mae llawer o stŵr

A chwerthin am ‘chydig gyda’m ffrind gorau.

 

Gall dynnu ei ddannedd neu chwislo’n ddibaid

Ar nain yn y gegin, neu adrodd storiau

Am hwn neu am arall, a minnau’n ymgolli

Wrth wrando yn astud ar fy ffrind gorau.

 

Bob blwyddyn bu’r gwyliau yn raddol fyrhau

Ac yntau’n arafu, ddim cweit yn ei hwyliau

Roedd rhywbeth o’i le a minnau’n tristhau;

Mor fawr yw fy hiraeth am fy ffrind gorau.

 

(*Y Tŵr yw fersiwn 3D o’r gêm Four in a Row)

 

 

Llongyfarchiadau mawr iti Martha, a chofia ddal ati efo’r ysgrifennu!