Gwobrau’r New Welsh Writing Awards 2021 ar agor
Maw 24 Tachwedd 2020 / , , / Ysgrifennwyd gan Llenyddiaeth Cymru

Awduron! Mae golygydd y New Welsh Review, Gwen Davies, yn chwilio am y gorau o’r goreuon o blith rhyddiaith newydd gyda thema neu leoliad Cymreig ar gyfer gwobrau’r New Welsh Writing Awards 2021, cystadlaeaeth sydd bellach yn ei seithfed flynedd gyda phrif wobr o £1,000.

Daw’r cyhoeddiad ddyddiau yn unig wedi i Peter Goulding, enillydd y wobr yn 2019 gydag On Slate, ymddangos yn seremoni fawreddog Gwobr Boardman Tasker for Mountain Literature gyda Slatehead, y gwaith hir a esblygodd o’r darn byr gwreiddiol. Cafodd Peter ei gyfweld ynghyd â gweddill yr awduron sy’n ymddangos ar y rhestr fer yn ystod y seremoni yng Ngŵyl Lenyddol Kendal Mountain Literature Festival dan arweiniad Stephen Venables ar 21 Tachwedd.

Eleni, mae’r New Welsh Writing Awards yn gwobrwyo gweithiau rhwng 5,000 – 30,000 gair mewn un categori, sef Gwobr Rheidol ar gyfer Rhyddiaith gyda Thema neu Leoliad Cymreig, a wnaed yn bosib diolch i gefnogaeth hael y tanysgrifiwr hirdymor, Richard Powell. Mae’r wobr ar agor tan 23:59 ar 16 Mawrth 2021 ac yn derbyn ceisiadau gan awduron o’r DU ac Iwerddon yn ogystal â’r rheiny sydd wedi derbyn addysg yng Nghymru am gyfnod o chwe mis neu fwy. Am y tro cyntaf eleni, bydd Gwen Davies hefyd yn ystyried un cais gan awdur 18 – 25 mlwydd oed ar gyfer ei gyhoeddi yn y New Welsh Review, mewn print neu ar-lein.

 

Sut i ymgeisio

Yn gyntaf oll, darllenwch alwad y beirniad, Gwen Davies, yn ogystal â thelerau ac amodau’r gystadleuaeth. Yna, cliciwch yma er mwyn agor y ffurflen gais.

Yn ogystal â gwobr ariannol o £1,000 fel blaendal ar gyfer cytundeb e-gyhoeddi, bydd yr awdur buddugol yn derbyn beirniadaeth gadarnhaol gan yr asiant llenyddol arobryn Cathryn Summerhayes o Curtis Brown Literary Agency Llundain. Yr ail wobr yw arhosiad pedair noson yn Encil Awduron Nant, bwthyn encil ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yng Ngwynedd, a gaiff ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru. Y trydydd gwobr yw arhosiad dwy noson yn Llyfrgell Gladstone yn Y Fflint.

 

Prif Ddyddiadau

Dyddiad cau: 16 Mawrth 2021

Cyhoeddi’r rhestr fer: 5 Mai 2021

Seremoni’r Enillwyr: 28 Mai 2021

 

Noddir The New Welsh Writing Awards 2021 gan Richard Powell. Cynhelir y gwobrau mewn partneriaeth gyda Curtis Brown Literary Agency, Gladstone’s Library a Llenyddiaeth Cymru. Cefnogir y New Welsh Review gan gyllid craidd gan Gyngor Llyfrau Cymru a chaiff y cylchgrawn ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth.

 

#NewWelshAwards

Cliciwch yma i ymgeisio