Newyddion: Gwobrau New Welsh Writing 2017
Iau 1 Mehefin 2017 / / Ysgrifennwyd gan Miriam

Cyhoeddwyd enillwyr gwobrau New Welsh Writing Awards 2017 yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i’r enillwyr oll. Bydd Mary ac Olivia, ddaeth yn ail yn y categori cofiant a’r categori nofela, yn enill lle ar gwrs o’u dewis yma yn Nhŷ Newydd. Edrychwn ymlaen at eu croesawu yma yn fuan. 

 

Cyhoeddodd New Welsh Review, ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth ac AmeriCymru, enillwyr gwobrau New Welsh Writing Awards 2017: Gwobr Prifysgol am Gofiant a Gwobr AmeriCymru ar gyfer y Nofela, mewn seremoni yng Ngŵyl y Gelli Iau 1 Mehefin.

Mae’r Gwobrau hyn yn hyrwyddo’r goreuon ymhlith cofiannau a nofelau byrion gan awduron sefydliedig newydd. Derbyniwyd ceisiadau gan awduron o Gymru, Lloegr a’r Unol Daleithiau. Roedd golygydd New Welsh Review, Gwen Davies, yn feirniad ar y ddwy gategori gyda chymorth myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Cyd-feirniad Gwobr y Nofela oedd y Cymro o America, yr awdur David Lloyd. Mae David yn awdur naw llyfr gan gynnwys casgliadau barddoniaeth, nofela a nofelau, a mae’n arwain rhaglen ysgrifennu creadigol prifysgol Le Moyne College yn Syracuse, NY.

Enillodd Catherine Haines, dinesydd deuol Seisnig-Awstralaidd, y Wobr Cofiant, am ei phrofiad, fel menyw ifanc, o anorecsia ym Mhrifysgol Rhydychen, o’r enw ‘My Oxford’. Cath Barton, sy’n byw yn Y Fenni, a enillodd Gwobr y Nofela ar gyfer ei stori ‘The Plankton Collector’, pastiche ysgafn o fyd delfrydol yn llawn archdeipiau a fydd yn ein helpu i iachau a dysgu.

Cyflwynwyd i’r ddwy awdur sieciau am £1,000 fel blaendal ar gytundeb e-gyhoeddi gan New Welsh Review ar eu gwasgnod New Welsh Rarebyte. Byddent hefyd yn derbyn beirniadaeth bositif gan asiant blaenllaw cwmni Curtis Brown, Cathryn Summerhayes.

Dywedodd golygydd NWR, Gwen Davies, ‘Yn ein dwy gais arobryn yng nghategoriau’r nofela a chofiant, a ddewiswyd gan rhestrau byrion bron menywod i gyd (cywilydd ar ein pleidiau gwleidyddol!), y prif themau yw gwellhâd, trawma ac ystwythder cof a phrofiad.

‘Ar ein rhestr fer ar gyfer cofiant roedd hanesion gwir o eithafion lwc drwg, bwyta a pharanoia’r Rhyfel Oer. O hyn, yr achos a ddaeth i’r brig oedd un athronyddol academaidd sy’n ystyried salwch bwyta fel pererindod. Mae ein animeiddiad 4-munud [https://vimeo.com/219528361] o ‘My Oxford’, a greuwyd gan un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth, Emily Roberts, yn defnyddio typograffeg er mwyn dangos sgwrs deuol academia, a phenglog Yorrick o Hamlet er mwyn dehongli sut trawsnewidiodd Catherine gan anorexia, i mewn i ‘ben sy’n arnofio… yn wag o emosiwn.’

‘Ar ein rhestr fer ar gyfer y nofela roedd straeon tywyll o gamdrin rhywiol, meithrin rhywiol (grooming) a diangfa rhag tadau sy’n dominyddu. O hyn, y stori a ddaeth i’r brig oedd cymysgedd wedi ei rheoli yn hyfryd o realaeth hudol ac ysgrifennu natur gyda themau o wellhâd, trawma a natur annibynadwy, ystwyth, cof. Mae ein animeiddiad 4-munud [https://vimeo.com/219525617] o ‘The Plankton Collector’, a greuwyd hefyd gan un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth, Emily Robert, yn atseinio dull Chwedegau darluniadau llyfrau plant er mwyn ad-enill byd euraidd, coll plentyndod a’r Everyman buddiol y mae ‘Plankton Collector’ cyfriniol Cath yn cynrychioli.’

Fe aeth Ail Wobr categori Cofiant i Mary Oliver ar gyfer ‘The Case’, cofiant ffuflenol traws genre sy’n ‘arloesol, yn effeithiol gyda dyfnder yn eu calon ac ehangder yn eu hymchwil.’ Yn yr ail Safle ar gyfer categori y Nofela mae Olivia Gwyne ar gyfer ‘The Seal’, stori gyda ‘chymeriadu cymhleth, sensitif a naratif sydd yn grefftus adeiladu tyndra.’ Bydd Mary ac Olivia ill dwy yn derbyn cwrs breswyl wythnos yn Nghanolfan Tŷ Newydd, Llanystumdwy.

Cynigwyd Trydydd Safle Gwobr Cofiant i Adam Somerset ar gyfer ‘People, Places, Things: A Life with The Cold War’, cofiant sy’n darlunio ‘tirlun ysgubol Bloc y Dwyrain trwy lygaid teithiwr ifanc Prydeinig.’ Pennwyd Nicola Daly yn Drydydd yng Ngwobr y Nofela ar gyfer ei ‘harddull arloesol a byd swreal grefftus meistriolus’ ei nofela ‘The Night Where You No Longer Live’. Mae Adam a Nicola ill dau yn enill ymweliad penwythnos yn llyfrgell breswyl Gladstone yn Sir Fflint.

Cyhoeddir darn o waith pob 12 o’r enwebeion mewn rhifynau i ddod o New Welsh Reader; rhoddir tanysgrifiad i bob 6 enillydd yn ogystal.

Atgoffodd golygydd New Welsh Review y rhai oedd yn bresennol am enillwyr eu Pôl Darllenwyr New Welsh Readers’ Poll 2017: Best Memoir & Novella, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn y gwanwyn ar gyfer cofiant a nofela gorau eriod yn Saesneg. Persepolis gan Marjane Satrapi (Vintage) yw enillydd Cofiant Gorau, gan dderbyn 50% o’r bleidlais. Grief is the Thing with Feathers gan Max Porter (Faber) enillodd categori Nofela Gorau gyda 55% y bleidlais. Llongyfarchiadau i Marjane Satrapi a Max Porter.

http://www.newwelshwritingawards.com/ #newwelshawards

Noddir Gwobrau 2017 gan Brifysgol Aberystwyth, noddwr craidd a lletywr New Welsh Review, a chylchgrawn ar-lein a rhwydwaith cymdeithasol yr Unol Daleithiau AmeriCymru. Trefnir y Gwobrau mewn partneriaeth â Curtis Brown, Llyfrgell Gladstone a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ̂ Newydd.

Am ddelweddau a mwy o fanylion ar y Gwobrau, Pôl Darllenwyr ac am geisiadau cyfweliad cysyllter (yn Saesneg) â Jamie Harris ar marketing@newwelshreview.com neu 07812 804505 neu (yn Gymraeg) gyda Gwen Davies, beirniad a golygydd. Mae Catherine Haines ar hyn o bryd yn Hong Kong ond mae hi ar gael trwy ebost a fideo.