Mae wyneb newydd yn y swyddfa’r wythnos hon – Lois o Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Braf iawn yw cael ei chwmni yma yn Nhŷ Newydd ar ei hwythnos brofiad gwaith. Bydd Lois yn cadw dyddiadur o’i hwythnos er mwyn ei gyhoeddi fel blog ddiwedd yr wythnos, ond yn y cyfamser, dyma ychydig mwy o wybodaeth amdani.
- A’i dyma fydd y tro cyntaf i ti ymweld â Thŷ Newydd?
Rwyf wedi ymweld â Thŷ Newydd o’r blaen gyda’r ysgol yn cymryd rhan mewn sesiwn ganu creadigol gyda Ed Holden. Rwyf yma heddiw a thrwy’r wythnos ar brofiad gwaith.
- Wyt ti’n mwynhau sgwennu? Wyt ti’n dilyn trefn benodol neu wyt ti’n ysgrifennu rhywbeth bob dydd; beiro benodol; terfyn geiriau?
Nid wyf i yn un o’r rhain sydd yn dilyn trefn benodol wrth ysgrifennu rhywbeth bob dydd. Rwyf yn tueddu i ysgrifennu pan fydd syniadau creadigol yn dod i fy meddwl.
- Beth yw dy hoff lyfr neu gyfrol?
Nid oes gen i un hoff lyfr neu gyfrol benodol gan fy mod yn hoff o amryw o wahanol lyfrau.
- Pe galle ti fod yn awdur ar unrhyw lyfr sydd wedi ei gyhoeddi, pa lyfr fyddai hwnnw?
Yn Y Gwaed gan Geraint Vaughan Jones.
- Pe galle ti ddewis 3 awdur, byw neu farw, i ddod draw am swper, pa dri fuase ti’n eu dewis?
Geraint Vaughan Jones
Kate Roberts
Gwyn Thomas
- Pe galle ti fod yn unrhyw gymeriad mewn llenyddiaeth o unrhyw fath, pwy fyddech ti, a pham?
Byddwn yn dewis y cymeriad Harry Potter o’r gyfres Harry Potter gan yr awdures J.K. Rowling gan ei fod yn gymeriad sydd yn llawn dychymyg sydd yn fy sbarduno i feddwl yn greadigol. Mae hefyd yn brif gymeriad pwysig iawn yn y gyfres gan mai ef y mae’r straeon wedi cael ei benodi ar ei gyfer sydd yn gwneud i’r straeon lifo. Mae J.K. Rowling wedi gwneud y cymeriad Harry Potter yn gymeriad hudolus iawn sydd yn gwneud y gyfres yn ddiddorol a darllenadwy iawn.
- Be wyt ti’n ei astudio yn yr ysgol; pa rai yw dy hoff bynciau a pham?
Yn yr ysgol, rwyf yn astudio Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth fel pynciau craidd, a fy mhynciau dewisol yw hanes, addysg grefyddol, celf ac addysg gorfforol.
- Sut fath o yrfa hoffet ti ei dilyn yn y dyfodol?
Hoffwn gael gyrfa yn ymwneud ag addysg yn y dyfodol.
- Beth wyt ti’n obeithio ei gael / gyflawni / ddysgu yr wythnos hon yn Nhŷ Newydd?
Ar fy mhrofiad gwaith yn Nhŷ Newydd, rwyf yn gobeithio dysgu a chyflawni amryw o sgiliau newydd gan ddatblygu fy sgiliau creadigol ymhellach yn y Gymraeg.