Profiad Gwaith
Gwe 18 Mawrth 2016 / Ysgrifennwyd gan Iwan Ellis Jones

Yn diweddar, cawsom y pleser o groesawu Iwan Ellis Jones, myfyriwr Gweinyddu Busnes yng Ngholeg Meirion Dwyfor Pwllheli, yma ar brofiad gwaith mewn partneriaeth ag RNIB Cymru. Dyma gofnod gan Iwan am ei brofiad gwaith yma:

“Er bod fy amser gyda Tŷ Newydd wedi bod yn fyr, rwyf wedi dysgu cymaint am farddoniaeth Cymraeg ac ysgrifennu creadigol. Roeddwn i ar brofiad gwaith yma am bum wythnos a rwyf wedi gweld y gwaith a’r ymroddiad y mae’r staff yn ei roi i mewn i’r gwaith yma. Maent yn cynnig llawer o gyrsiau ac yn croesawu unrhyw un a phawb fyddai’n hoffi dod yma. Mae’r lleoliad hefyd yn syfrdanol iawn. Mae Tŷ Newydd wedi ei leoli mewn ardal goetir hardd yn bell i ffwrdd oddi wrth y synau dinas neu dref sy’n ei gwneud yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am ganolbwyntio ar eu hysgrifennu heb gael unrhyw wrthdyniadau. Bydd yr amgylchedd tawel a heddychlon yn helpu unrhyw berson creadigol i fynegi eu meddwl artistig a chynhyrchu gwaith ffantastig. Dwi’n dal argymell eich bod yn cymryd rhan yn un o’r nifer o gyrsiau gwych y maent yn ei gynnig yma i weld drosoch eich hun. Ni fyddwch yn difaru.