Prosiect: Barddoniaeth a Dementia
Gwe 19 Mai 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Prosiect Llenyddiaeth er Iechyd a Lles Gwynedd 2017

Mae hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia rhwng 14 – 21 Mai, ac am y drydedd flwyddyn eleni, bu Llenyddiaeth Cymru yn cydlynnu ymweliadau awduron a beirdd â chartrefi gofal yng Ngwynedd i gynnal gweithdai creadigol gydag unigolion sy’n byw â dementia.

Gwion Hallam a ddewiswyd i fod ynghlwm â’r prosiect eleni. Bu’r awdur a’r cyflwynydd teledu yn ymweld â Chartref Gofal Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon dros gyfnod o chwe wythnos.

Gall cyflwr Dementia gael effaith andwyol ar allu gwybyddol unigolion. Ond mewn nifer o achosion, mae’r elfennau o’r meddwl sy’n delio â chreadigrwydd, dychymyg ac yn tueddu i oroesi. Yn ôl astudiaethau diweddar, mae gweithgareddau creadigol, cerddorol a therapiwtig felly yn hynod bwysig fel rhan o becyn gofal unigolion sydd â dementia.

Mae trigolion Bryn Seiont yn ffodus iawn o gael nifer o weithgareddau celfyddydol a therapiwtig eisoes, gan gynnwys sesiynau gyda’r cerddor preswyl, Nia Davies Williams. Yn ystod sesiwn yng nghwmni Nia, ysgrifennodd Gwion y gerdd hon gyda Janet, un o’r trigolion:

Joi

(Tra bod Nia’n canu gyda chriw o’r trigolion)

 

Nid wy’n gofyn bywyd moethus

aur y byd na’i berlau mân.

 

Calon Lân!

Dwi’n gwbod honna,

wedi ei dysgu’n rysgol Sul.

Dwi’n cofio geiria’r hen emyna –

wel, rhai ohonynt wir …

 

A dwi’n cofio mynd â Joi bach weithia

i fyny’n llawes i helpu’r plant.

Joi heb bapur i Pencaerau

rhag gwneud twrw,

ac i dawelu’r plant.

 

Mynd â joi – jiw jiws a mints –

un meddal oedd jiw jiw.

A’r plant yn deud adnoda hir

er mwyn jiws jiws

ac imperial mints

ond heb ddim papur ar fy ngwir

rhag codi twrw mawr.

 

Ac roedd y ddau gin i’n rhai da

am ddeud adnoda, eu dysgu’n iawn.

Sa Huw’n eu dysgu

ond heb eu gneud!

Mond Wilma fasa’n gneud

nhw’n iawn, wel weithia

–  yn gneud eu gora.

 

Ddylsa chi fod wedi dod draw

pan oedd y gŵr yn dal yn fyw

achos fo oedd yn barddoni,

nid fi. O’dd o’n sgwennu nhw i lawr

ac yn eu rhoi nhw yn nunlla.

Yn rhywla? Y gŵr –

o’dd o’n siarad barddoniaeth.

 

Yn nghapel Pencaerau

does na’m ysgol Sul rwan

mae hynny hefyd i rywla di mynd.

A dwi’n byw’n dawal iawn

i chi rwan …

 

Ond dwi’n cofio’r emyna

rhai ohonynt yn iawn,

ac yn cofio rhoi joi i’r rhai bach.

 

Meddai Gwion, “Roedd rhai yn methu â choelio mai y nhw wnaeth ‘sgwennu’r cerddi. Yn rhyfeddu wrth glywed eu geiriau – a’u hanes – a’u teimladau yn cael ei ddarllen yn ôl iddynt. Geiriau’r trigolion ydi pob gair sydd ynddynt. Dydw i heb ychwanegu dim. Y cyfan yr ydw i wedi ei wneud yw golygu.”

Meddai Leusa Llewelyn, Pennaeth Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd: “Mae’n prosiect creu cerddi mewn cartrefi gofal wedi datblygu i fod yn elfen hynod bwysig o brosiect Llenyddiaeth er Iechyd a Lles Llenyddiaeth Cymru. Mae’r cynyrch creadigol teimladwy sydd wedi ei greu gan y cyfranogwyr a’u teuluoedd ynghyd â hanesion gan yr awduron a’r gweithwyr gofal dros y blynyddoedd yn profi fod y gweithdai yn gwneud gwahaniaeth.”

Dymuna Llenyddiaeth Cymru ddiolch i Grant Strategol Cyngor Gwynedd am eu cefnogaeth unwaith eto eleni. Bydd cwrs Ysgrifennu a Dementia yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar benwythnos 9-11 Mehefin yng nghwmni’r arbenigwyr John Killick a Karen Hayes sydd â phrofiad helaeth o ysgrifennu ar y cyd â phobl sy’n byw â dementia. Cliciwch yma i ddysgu mwy am y cwrs ac i gofrestru.