Prosiect Iechyd a Lles Gwynedd 2017-18
Gwe 1 Mehefin 2018 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Fel rhan o gynllun Llenyddiaeth er Iechyd a Lles a ariennir gan Gyngor Gwynedd, trefnodd Llenyddiaeth Cymru gyfres o weithdai ysgrifennu rhwng chwech o bobl hŷn Cartref Bontnewydd a chwech o bobl ifanc Ysgol Pendalar. Gwion Hallam fu yng ngofal y gwaith a bu’r deuddeg yn creu gwaith gyda’i gilydd ar y thema TYFU trwy sgwrsio a rhannu straeon am ei gilydd, trwy edrych ar luniau ohonyn nhw eu hunain yn blant bach a thrwy arbrofi gyda geiriau i greu cerddi. Bydd yr holl gerddi yn cael eu fframio trwy garedigrwydd aelodau o sefydliad Men’s Sheds a’u gosod ar waliau’r cartref a’r ysgol.

Ail ran y prosiect yw cyfres o weithdai rhwng preswylwyr Cartref Bryn Blodau, Blaenau Ffestiniog a phobl ifanc Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth. Mae hwythau hefyd yn gweithio ar y thema TYFU ac yn cyfuno gweithdai dawnsio gydag Elin o Dawns i Bawb gyda gweithdai barddoniaeth gyda Sian Northey. Yn y gweithdy cyntaf cafodd bawb wy Pasg er mwyn eu hysbrydoli i feddwl am yr wy, beth sydd tu mewn iddo a beth fyddai’n digwydd nesaf.

Dymuna Llenyddiaeth Cymru ddiolch i Grant Strategol Cyngor Gwynedd am eu cefnogaeth unwaith eto eleni, ac i’r holl artistiaid a’r partneriaid am eu cydweithrediad.