Prosiect Y Tipi Olaf
Llu 9 Gorffennaf 2018 / , , / Ysgrifennwyd gan Gwen Lasarus James

Daeth y syniad am Y Tipi Olaf gan Bet Huws, a diolch iddi hi am hynny, ar ôl iddi hi ddarllen The Last Tipi gan Kris Landry. Llyfr sydd yn darlunio bywydau brodorion De America yn ymweld â thipi ac yn adrodd eu straeon dro ar ôl tro nes bod y stori olaf wedi ei adrodd. Gwelodd fod hyn yn gatharsis i’r merched ac yn fodd o wella unigolion yn dilyn profiadau anodd.

Mi roedd ein Tipi Olaf ni yn anelu at roi cyfle i ferched yn ardal Caernarfon ddod at ei gilydd i adrodd eu straeon nhw. Yr actores, y gyflwynwraig a’r awdures Ffion Dafis fu’n arwain tri gweithdy ysgrifennu yn Llyfrgell Caernarfon gyda chriw o ferched lleol. Mae gan bob un ohonynt eu stori eu hunain, a’r rheiny yn straeon sydd angen eu clywed.

Yn ystod y trydydd gweithdy ar 27 Mehefin, sef Diwrnod Cenedlaethol Ysgrifennu, cafodd y merched gyfle i recordio eu straeon gyda Dafydd Huws o gwmni Amcan. Y straeon hynny sydd wedi eu gosod yn y tipi yma, gyda chroeso cynnes i chi wrando arnynt. Roedd preifatrwydd y merched yn holl bwysig i ni, ac fe barchwyd hynny drwy sicrhau fod cyfrinachedd yn holl bwysig trwy gydol y prosiect.

Bydd cyfle i wrando ar y straeon yn y tipi trwy gydol Gŵyl Arall, Caernarfon rhwng 11 – 15 Gorffennaf 2018.

Mae’n diolch yn fawr i’r canlynol: Grant Buddsoddi Cymunedol Cartrefi Cymunedol Gwynedd, i Bet Huws am y syniad, i Ffion Dafis, Dafydd Huws, Llyfrgell Caernarfon, ac i’r merched am rannu eu straeon.