Cyhoeddi Rhaglen Gyrsiau’r Hydref
yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru lansio rhaglen o gyrsiau undydd yr hydref yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Gyda diwedd yr haf a dyfodiad mis Medi, daw’r awydd yn aml i gychwyn rhywbeth o’r newydd – felly beth am roi cynnig ar gwrs ysgrifennu creadigol byr?
Bydd rhaglen yr hydref yn gweld rhai o brif lenorion Cymru yn dod i’r ganolfan i roi arweiniad ym meysydd ffuglen boblogaidd, ysgrifennu i blant, straeon byrion a sgriptio. Bydd hefyd gwahoddiad i bawb ddod draw atom i’r tŷ yn ystod ein diwrnod agored – lle bydd cyfle i fusnesu o amgylch yr adeilad hanesyddol a dysgu mwy am ein gwaith. Bydd paneidiau, melysion a lobsgóws enwog Tŷ Newydd yn eich disgwyl ar ddydd Sul 24 Medi, a bydd drysau ein cyfeillion yn Amgueddfa Lloyd George ar agor i chi hefyd.
Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu criw o 12 o sgriptwyr ifainc sydd wedi cael eu dewis i ddod yma i weithio gydag Anni Llŷn ym mis Medi ar greu dramâu byrion i blant fel rhan o gynllun arbennig Gŵyl Hanes Cymru i Blant. A bydd criw arall o ieuenctid 16-25 oed yn dod yma ym mis Rhagfyr hefyd ar gyfer ein Cwrs Olwen blynyddol, ar y cyd â’r Urdd, i wobrwyo llwyddiant enillwyr cystadlaethau llên Eisteddfod yr Urdd eleni. Bydd rhai o lenorion amlycaf Cymru’r dyfodol ymysg y ddau griw yma’n reit siŵr – gwyliwch y gofod (a llwyfannau’r Eisteddfod Genedlaethol).
Dyma flas i chi o’r cyrsiau sydd i ddod. Cofrestrwch eich lle yn fuan, gan fod ein cyrsiau undydd yn dueddol o werthu yn gyflym. Os ydych yn teithio o bell i ymuno â ni, holwch ni am lety am bris rhesymol. Mae mwy o wybodaeth am bob cwrs a botwm i gofrestru eich lle ar gael drwy glicio ar deitl y cwrs.
Dydd Sul 24 Medi: Diwrnod Agored
Rhwng 11.00 am – 4.00 pm bydd Tŷ Newydd yn cynnal Diwrnod Agored fel rhan o dymor Drysau Agored Cadw, ac yn gwahodd y cyhoedd i ddod draw i gerdded o amgylch y tŷ hanesyddol. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael, a theithiau gwybodaeth anffurfiol drwy’r dydd. Bydd Twm Morys hefyd yn arwain taith gerdded lenyddol o amgylch yr ardal leol yn cychwyn o Dŷ Newydd am 11.30 am.
Dydd Sadwrn 30 Medi: Gweithdy Sgriptio Gair am Air
Cwrs Undydd yng nghwmni Manon Wyn Williams a Sarah Bickerton, mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru i gyd-fynd â thaith cynhyrchiad Hollti. Bydd y gweithdy yn canolbwyntio ar y gwahanol gamau o fewn y broses greadigol o lunio sgript gair am air, o’r cyfweliadau cychwynnol i’r trawsysgrifio i strwythuro cynhyrchiad gafaelgar.
Dydd Sadwrn 7 Hydref: Straeon Byrion a’r Synhwyrau
Cwrs Undydd yng nghwmni Manon Steffan Ros. Bydd y cwrs undydd hwn yn edrych ar y grefft o ysgrifennu darnau byrion, bachog o ryddiaith. Gan edrych ar dechnegau arddull yn nofel boblogaidd Manon, Blasu, byddwn yn defnyddio’r chwe synnwyr i liwio ein gwaith ac i ddod â geiriau’r dudalen yn fyw.
Nos Sadwrn 7 Hydref: Bwyty Unnos gyda’r cogydd gwadd Nici Beech. Adloniant gan Blodau Gwylltion
Bydd awdur llyfr coginio poblogaidd Cegin, Nici Beech, yn paratoi pryd tri chwrs i griw o amgylch bwrdd mawr yr Ystafell Fwyta. Bydd adloniant cerddorol rhwng y prydau bwyd gan Blodau Gwylltion, sef Manon Steffan Ros ag Elwyn Williams. Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd ar gael.
Dydd Sadwrn 21 Hydref: Dechrau Nofel o’r Dechrau
Cwrs Undydd yng nghwmni Llwyd Owen, fydd yn rhannu ei brofiadau o ddatblygu egin syniad yn nofel orffenedig. Gan ddefnyddio’i nofelau ei hun fel man cychwyn, bydd yr awdur o Gaerdydd yn eich rhoi ar ben y ffordd ac yn esbonio sut gall un olygfa neu gymeriad dyfu i fod yn stori gynhwysfawr.
Dydd Sadwrn 28 Hydref: Ysgrifennu i Blant
Cwrs Undydd yng nghwmni Meleri Wyn James. Bydd y cwrs hwn yn ein hannog i edrych ar y byd drwy lygaid plant i gael ceisio deall beth sy’n gwneud stori dda. Byddwn hefyd yn edrych ar y camau cyhoeddi: sut i gynnig syniad i wasg neu olygydd, a beth yn union yw’r broses i gyhoeddi llyfr sy’n siŵr o gyrraedd rhif 1 yn siartiau gwerthiant y Cyngor Llyfrau yn y dyfodol.
Byddwn yn cyhoeddi rhaglen gyrsiau 2018 yn fuan iawn. Yn y cyfamser, dyma ychydig o ddyddiadau ar gyfer y dyddiadur:
Ysgrifennu Creadigol i Ddysgwyr Cymraeg gyda Bethan Gwanas ac Eilir Jones
16 – 18 Mawrth 2018
Cwrs Cynganeddu gyda Mererid Hopwood a Ceri Wyn Jones
23 – 27 Ebrill 2018