Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018
Gwe 11 Mai 2018 / / Ysgrifennwyd gan Llenyddiaeth Cymru
“Cyfrolau cofiadwy o ran eu safon a’u heffaith ar y darllenydd”

Wedi misoedd lawer yn darllen trwy gynnyrch llenyddol 2017, mae dau banel beirniadu annibynnol wedi dewis eu rhestrau byrion ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018.

Dyfernir Gwobr Llyfr y Flwyddyn, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru, i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr o fewn tri categori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.

Mae’r rhestrau byrion Cymraeg a Saesneg eleni yn cynnwys rhai o awduron amlycaf Cymru. Yn eu mysg mae cyn-Fardd Cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis; y llenor clodfawr, Mihangel Morgan; yr awdur arobryn Horatio Clare; ac arbenigwr blaenaf dwy lenyddiaeth y Gymru fodern, Yr Athro M. Wynn Thomas. Yn mynd benben â’r cewri llenyddol hyn mae awduron ar ddechrau eu gyrfaoedd, gan gynnwys rhai sy’n cyhoeddi gwaith am y tro cyntaf.

O fuarth rhew Môr Llychlyn, i strydoedd myglyd Buenos Aires, i glamp o dŷ dychrynllyd yn Aberdyddgu ffuglennol, mae Rhestr Fer 2018 yn cymell darllenwyr i archwilio a darganfod. Dyma deitlau sy’n trin a thrafod profiadau amrywiol Cymru a Chymreictod – ei hieithoedd, ei chymunedau a’i chymeriadau, ei dylanwadau, thirweddau a’i straeon; o’r gorffennol, y presennol ac i’r dyfodol. Gwelwn Gymru fel gwlad “micro-gosmopolitan” lle triga chwyldroadwyr, delwyr cyffuriau, pobl hynod, pobl swil, comiwnyddion, a dewiniaid. Bydd darllenwyr yn dysgu am fyd y blodau, am feddyginiaethau amgen, am y “modernydd mawr olaf”, ac yn treulio amser rhwng beth a ddwedir a beth a olygir; rhwng hanes a stori.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi mai’r cyfrolau canlynol sydd wedi eu dethol ar gyfer Rhestr Fer Cymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018:

 

Gwobr Farddoniaeth

Llif Coch Awst, Hywel Griffiths (Cyhoeddiadau Barddas)
Treiglo, Gwyneth Lewis (Cyhoeddiadau Barddas)
Caeth a Rhydd, Peredur Lynch (Gwasg Carreg Gwalch)

Gwobr Ffuglen

Gwales, Catrin Dafydd (Y Lolfa)
Fabula, Llŷr Gwyn Lewis (Y Lolfa)
Hen Bethau Anghofiedig, Mihangel Morgan (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Meddyginiaethau Gwerin Cymru, Anne Elizabeth Williams (Y Lolfa)
Blodau Cymru: Byd y Planhigion, Goronwy Wynne (Y Lolfa)
Ar Drywydd Niclas y Glais, Hefin Wyn (Y Lolfa)

 

Ar y panel Cymraeg eleni mae’r ddarlledwraig a’r cyflwynydd Beti George; Prifardd Eisteddfod Genedlaethol 2016, Aneirin Karadog a chyn enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn, Caryl Lewis.

Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Aneirin Karadog: “Bu’r broses feirniadu, cyn belled, yn un ddifyr a bywiog, wrth i ni dafoli’r rhychwant eang o lyfrau a gyhoeddwyd yn y Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n destun balchder fod cymaint o lyfrau o safon yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg heddiw, a’r llyfrau hynny yn trin pynciau o bob math ac mewn cymaint o arddulliau creadigol. Rydym fel beirniaid wedi teimlo baich cyfrifoldeb drwy gydol y broses wrth orfod dewis rhwng sawl cyfrol dda i lunio’r rhestr fer. Yn y pen draw, mae’n rhaid mynd yn ôl greddf pan fo rhywun yn cymharu cymaint o gyfrolau a allai hawlio lle. Rydym yn teimlo fod yma sawl cyfrol gofiadwy o ran eu safon a’u heffaith ar y darllenydd ym mhob categori eleni, bydd y dasg o ddewis enillwyr y categorïau ac enillydd y brif wobr yn un hynod o anodd maes o law!”

 

Mae’r panel Saesneg eleni yn cynnwys y colofnydd, cynhyrchydd a’r awdur Carolyn Hitt; y bardd a’r golygydd Kathryn Gray; a’r awdur Cynan Jones, a enillodd wobr y BBC Short Story Award 2017. Ar y rhestr Fer Saesneg mae:

 

Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias

All fours, Nia Davies (Bloodaxe Books)
The Mabinogi, Matthew Francis (Faber & Faber)
Diary of the Last Man, Robert Minhinnick (Carcanet Press)

Gwobr Ffuglen

Hummingbird, Tristan Hughes (Parthian)
Light Switches Are My Kryptonite, Crystal Jeans (Honno)
Bad Ideas \ Chemicals, Lloyd Markham (Parthian)

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Icebreaker, Horatio Clare (Chatto & Windus)
David Jones: Engraver, Soldier, Painter, Poet, Thomas Dilworth (Jonathan Cape)
All that is Wales, M. Wynn Thomas (Gwasg Prifysgol Cymru)

 

I ddarllen rhagor am y cyfrolau ar y Rhestr Fer a’r awduron a’u hysgrifennodd, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org.

 

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Rhestr Fer 2018 yn profi bod awduron Cymru yn parhau i wneud eu marc ar fap llenyddol y byd. Mae’r deunaw teitl a ddewiswyd eleni’n cynrychioli tapestri cymhleth ein gwlad brydferth, ddryslyd. Ewch ati i ddarllen, i ddysgu ac i ddarganfod – mae gwledd yn eich disgwyl.”

Caiff enillwyr y gwobrau eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yn Tramshed, Caerdydd ar nos Fawrth 26 Mehefin, lle caiff cyfanswm o £12,000 ei ddosbarthu i’r awduron llwyddiannus. Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000, ac fe gyflwynir gwobr ychwanegol o £3,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith. Yn ogystal bydd enillwyr yn derbyn tlws sydd wedi’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Mae tocynnau i’r Seremoni Wobrwyo yn £5 (+ ffi archebu), a gellir eu prynu ar-lein o <http://tramshedcardiff.com>.


Hefyd yn y Seremoni Wobrwyo, fe gyhoeddir pwy yw enillwyr Gwobr Barn y Bobl a’r People’s Choice Award. Bydd y polau’n agor yn syth wedi’r cyhoeddiad, felly ewch i bleidleisio am eich ffefryn o’r cyfrolau ar y Rhestr Fer ar wefannau Golwg360www.golwg360.com (Cymraeg) neu ar Wales Arts Review www.walesartsreview.org (Saesneg).