Saith peth ysbrydoledig am fy mhenwythnos adrodd straeon yn Nhŷ Newydd
Maw 11 Hydref 2022 / / Ysgrifennwyd gan Bethan James

Ym mis Medi 2022, mynychodd Bethan James benwythnos Adrodd Straeon gyda tiwtoriaid Phil Okwedy a Daniel Morden yma yn Nhŷ Newydd. Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am ei phrofiad…

 

Ydych chi erioed wedi cael eich trawsnewid mewn ychydig ddyddiau?

Efallai wir fod hynny’n swnio fel rhywbeth o stori tylwyth teg, ond dyma ddigwyddodd i mi yn ystod cwrs Crefft y Cyfarwydd yn Nhŷ Newydd ym mis Medi. Roedd y cwrs dwys yma’n gyfle i ddysgu sut i addasu a chyflwyno’n chwedlau a’n straeon gwerin.

 

Dyma egluro’r hyn wnaeth y profiad yn un hudol…

 

  • Y Lleoliad

 

Cyn i’r gweithgareddau ddechrau, cefais fy nhywys o amgylch y tŷ hanesyddol hyfryd yr oedd yn cynnal y cwrs. Mae’n le tawel wedi ei nythu rhwng y môr a’r mynydd, â gerddi blerdwf.  Ces dyrchu mewn i gacen gartref tra’n mwynhau’r golygfeydd o’r môr a’r coedwigoedd, cyn cael golwg ar y llyfrgell a’r cilfachau llawn llyfrau. Roedd fy stafell yn fawr hefyd – hen ddigon o le i fy nychymyg ehangu!

 

 

  • Y Tiwtoriaid

 

Creodd y ddau diwtor, Phil Okwedy a Daniel Morden, awyrgylch gefnogol, a daethant a straeon yn fyw i ni. Mae Phil yn un o awduron Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru 2021. Cerais ei steil ddeinamig, a rhoddodd gyngor gwych i mi pan oeddwn yn ansicr am ddarllen chwedl yn uchel heb sgript: llunia fwrdd stori o luniau wedi eu selio ar adegau trawiadol. Does dim angen eu hysgrifennu lawr.

Mae Daniel yn enillydd Gwobr Tir na n-Og sydd wedi adrodd straeon ar draws y byd – o’r Arctig i’r Caribî. Ar y noson gyntaf, gofynnodd i ni feddwl am y llais yr ydym yn ei gysylltu â’r eiliad y gwnaethom y cysylltiad â straeon am y tro cyntaf. Dewch â hwnnw gyda chi’r penwythnos yma, cynghorodd. Fy atgof i oedd gwrando ar lyfrau sain wrth geisio pasio’r amser ar deithiau hir yn y car fel plentyn.

 

  • Y Cyfranogwyr

 

Rywbeth arall a wnaeth y penwythnos yn un arbennig oedd y pobl eraill oedd yn cymryd rhan, a’r teimlad o gymuned adrodd straeon yn ffurfio. Roeddent yn grŵp difyr, o ddynion camera teledu, i ffermwyr, i therapyddion, llyfrgellwyr, a mwy. Siaradon ni am bopeth – o chwedlau Prydeinig nad sy’n adnabyddus, i oroesi gorbryder perfformio. Awgrymodd un y syniad o greu fersiwn hyderus ohonoch eich hun neu bersona i gamu iddo, neu het wahanol i’w wisgo. Am grŵp croesawgar.

 

  • Y Gweithdai

 

Dydw i ddim am ddatgelu gormod yn fan hyn, rhag ofn fod rywun sy’n darllen hwn yn mynd ar y cwrs yn y dyfodol! Ond rwyf a nodi mod I wedi mwynhau sialens arlunio a ddangosodd sut mae straeon yn newid yn naturiol, ac yn cael eu haddasu wrth gael ei ailadrodd. Enghraifft arall yw pan adroddodd Daniel a Phil stori i ni, a’n gadael i fynd ati mewn parau i gofio prif gynhwysion y stori, a’i ailadrodd yn ein ffordd ein hunain. Dim defnyddio pen na phapur! Aethom hefyd trwy’r bocs offerynnau adrodd stori, o ystum, i fynegiant, i sain, a sawl techneg arall.

 

  • Y Cèilidh

 

Dim dyma oedd y ddawns yr oeddech yn ei ddisgwyl wrth ddychmygu Ceilidh. Yn hytrach, ar y noson gyntaf, cawsom ein hannog i ddod a stori, cerdd, cân neu rywbeth i adlonni’r grŵp. Roedd yn noson aruthrol o chwedlau (gan gynnwys stori o iawn am arth wen bron a marw). Rhoddais fy mherfformiad cyntaf cyhoeddus o ailadrodd chwedl y dewin Ceridwen. Roeddwn wedi gweithio ar hwn â’m mentor adrodd stori, Fiona Collins, a doedd ddim hanner mor ddychrynllyd I’w adrodd ac oeddwn wedi ei ddychmygu.

 

 

  • Y Bwyd

 

Mae rysáit cwrs preswyl yn cynnwys rhoi maeth I’r meddwl a’r stumog. Sut allai beidio sôn am y crymbl a wnaed â ffrwythau newydd eu casglu, a roddodd hwb i fy syniadau creadigol. Neu’r lobsgóws cynnes. Nefoedd.

 

 

  • Adrodd Streaeon

 

Un o uchafbwyntiau’r penwythnos i mi oedd y diwrnod olaf, pan gafwyd gyfle i glywed straeon oedd pobl wedi eu hymarfer mewn grwpiau bach. Â’r haul yn tywynnu, anogodd y tiwtoriaid ni i’w gosod mewn lleoliadau tu allan. Dechreuon ni â’r stori ‘Clean Water, Dirty Water’ wrth yr afon oedd yn rhuo drwy’r goedwig ger bedd Lloyd George. Stori diffuant am golled ac adnewyddu.

Roedd fy ngrŵp yn gefnogol ac yn cynnig nifer o syniadau. Adroddon ni chwedl Ffrengig,  ‘The Enchanted Apple Tree’, am hen ddynes a gafodd ymwelwr annisgwyl. Roedd bendant yn teimlo’n hudol i adrodd hwn o dan hen goeden yng ngerddi Tŷ Newydd. Gallwch ddarllen y stori aethom ati i’w haddasu yn fan hyn.

Felly, beth nesaf? Rwyf am fynd yn ôl i gael golwg ar gyfeiriadur y Society of Storytellers  am grwpiau cyfarfod yn fy ardal leol. Rwyf hefyd yn bwriadu cadw mewn cyswllt â’r tiwtoriaid a fy nghyd-chwedleuwyr newydd o’r cwrs wrth i mi barhau ar fy siwrne. Gobeithio byddaf nôl yn Nhŷ Newydd yn 2023…

 

Nid diwedd fy stori oedd y penwythnos hwn: dim ond y dechrau.

 

Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru a Grant y Loteri Cenedlaethol am fy ngalluogi i fynychu’r cwrs hwn.