Sêl Nadolig Cymru Ryfedd a Chyfareddol
Maw 4 Rhagfyr 2018 / / Ysgrifennwyd gan Llenyddiaeth Cymru

Sêl Nadolig Cymru Ryfedd a Chyfareddol: 10% i ffwrdd oddi ar Brintiau Argraffiad Cyfyngedig Pete Fowler

I ddathlu dadorchuddiad murlun Cymru Ryfedd a Chyfareddol Pete Fowler ar y tŵr dŵr eiconig tu allan i Orsaf Rheilffordd Caerdydd Canolog yn 2018, fe gomisiynodd Llenyddiaeth Cymru 200 o brintiau argraffiad cyfyngedig ohono. Mae gostyngiad o 10% oddi ar y rheiny sy’n weddill hyd at 14 Rhagfyr 2018, gyda phrintiau ar gael fel ag y maent neu wedi’u fframio. Maent ar gael ar wefan Gwlad y Chwedlau.

Awydd rhoi darn o gelf modern sy’n cynnwys chwedlau hynafol fel anrheg y Nadolig hwn? Neu beth am ei brynu fel anrheg i chi eich hun?

Heb ei fframio – £90 + £8 (Cludiant oddi fewn i’r DU) – yn cynnwys gostyngiad Nadolig o 10% (os ydych chi’n archebu cyn 14 Rhagfyr 2018). RRP £100 + £8 cludiant

Wedi ei fframio – £135 + £15 (Cludiant oddi fewn i’r DU) – yn cynnwys gostyngiad Nadolig o 10% (os ydych chi’n archebu cyn 14 Rhagfyr 2018). RRP £135 + £15 cludiant

Ers ei ddadorchuddiad ym Mawrth 2018, mae’r murlun wedi sefydlu ei hun fel eicon amlwg yn nhirlun y brifddinas. Cafodd y gwaith celf ei gomisiynu gan Llenyddiaeth Cymru, CADW, Allotment a Llywodraeth Cymru fel rhan o brosiect Cymru Ryfedd a Chyfareddol, a’i greu gan yr artist Pete Fowler, sy’n adnabyddus am ei waith gyda’r Super Furry Animals.

Mae’r murlun yn tynnu ynghyd rai o straeon rhyfeddaf a chyfareddol treftadaeth lenyddol Cymru, ac wedi ei osod ar adeilad rhestredig gradd II Tŵr Dŵr y Great Western Railway. Mae’r murlun yn cynnwys lluniau wedi ei hysbrydoli gan Y Mabinogi, straeon llafar hynafol Cymru a gofnodwyd yn y Canol Oesoedd. Gwelwn Bendigeidfran y cawr – Brenin Prydain – a frwydrodd yn erbyn y Gwyddelod ag yr un oedd a’i ben ar Ynys Gwales yn siarad gyda’i ŵyr am wyth-deg-saith mlynedd; gwelwn Blodeuwedd, y ferch a wnaed o flodau’r banadl gan Gwydion a’i roi yn wraig i Lleu, ond a chafodd ei throi yn dylluan fel cosb am geisio llofruddio ei gŵr; gwelwn y carw pendefig, gafodd ei drechu gan gŵn gwaedlyd Arawn – Brenin Annwn; a gwelwn y dduwies Rhiannon, sy’n marchoga yn well ac yn gryfach na marchogion gorau Pwyll.

Am ragor o wybodaeth am brosiect Cymru Ryfedd a Chyfareddol, ewch i: http://www.gwladychwedlau.cymru/themes/weird-wonderful-wales