• Llun:  Kristina Banholzer
Sgwad ‘Sgwennu Tŷ Newydd gyda Rhys Iorwerth
Maw 5 Tachwedd 2019 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Cyrhaeddodd un ar ddeg o blant brwdfrydig Dŷ Newydd ar fore Sul 3 Tachwedd  yn barod i ysgrifennu gyda Rhys Iorwerth. Daeth Swyn, Elliw, Anna, Magi, Ella, Mari, Alaw, Tesni, Lois, Beca a Siôn Elfed at ei gilydd o Gerrigydrudion, Llanberis, Cricieth i rannu straeon â’i gilydd am y llefydd bach cudd maent yn chwarae ynddynt, llefydd nad yw’r oedolion yn gwybod amdanynt. Ydych chi’n cofio derbyn cerdyn post o wlad bell, a llun o dywod melyn a’r môr fel nefoedd? A neges fer arno yn dweud, ‘Mae hi’n boeth yma a’r bwyd yn fendigedig, dwi’n mynd i nofio rŵan’. Cawsom fynd ar daith egsotig i draethau pell, gweld y pyramidiau yn yr Aifft a throedio strydoedd prysur Llundain; a hyn oll drwy’r geiriau ar un ar ddeg o gardiau post yn llawn o ddisgrifiadau byw a lliwgar. Cawsom deithio’r byd o gynhesrwydd ystafell fwyta Tŷ Newydd ar b’nawn gwlyb a llwyd yn nghanol y mis du.

Llenwi ein boliau â bisgedi a sudd ac yna mynd ar daith go iawn o gwmpas hen gartref Lloyd George oedd nesaf. Rhyfeddasant ar yr hen wal bren sy’n hen iawn a thwll y drws bychan bach yn awgrymu fod y Cymry yn bobl lai nag ydan ni heddiw. Dyma dŷ sy’n chwe chan mlwydd oed ac sydd yn dal i sefyll! Pam fod drws bach, bach yn uchel yn y wal uwchben y Llyfrgell? Fedr neb ei gyrraedd, fedr neb fynd i mewn, a fedr neb ddod allan ohono…rhyfedd.

Wrth sylwi ac edrych, cyffwrdd ac arogli fe welwn ni ryfeddodau, ac wrth ryfeddu mae ein dychymyg yn deffro. Peth fel yna ydi creu, ac mae creu yn ein gwneud ni’n hapus.

Dyma lwyddodd y criw i’w ysgrifennu yn ystod y sesiwn:

 

Tŷ Newydd sy’n chwe chant oed

Yn boddi o dan ddail y coed,

tu ôl i haearn y gatiau

lle mae’r ffenestri’n llawn patrymau.

tŷ gerllaw Afon Dwyfor

A’i ddrws i ‘sgwenwyr ar agor.

Tŷ Lloyd George y Prif Weinidog

a dan y lloriau mae llygod!

Yn Llyfrgell y tŷ hwn

Mae to a ffenestri crwn

A’r sŵn yn od, a siandelîr

Ac mae i’r lle oes hir, hir.

Mae’r grisiau’n gam, wonci a chul,

A’r Sgwad ‘Sgwennu sy’n hwyl ar ddydd Sul.

Ar y wal yn ddychrynllyd mae trap dôr

Ac o gadair yr ardd ti’n gweld y môr.