Taith Cwmorthin a Rhosydd
Iau 22 Chwefror 2018 / / Ysgrifennwyd gan Miriam Williams

Mae gen i gyfaddefiad – dwi erioed wedi bod yng Nghwmorthin o’r blaen, er mod i wrth fy modd yn gwrando ar y gân gan Gai Toms. Ond, diolch i deithiau llenyddol Llenyddiaeth Cymru, daeth y cyfle ddydd Sul diwethaf, 18 Chwefror, i fentro i Gwmorthin am y tro cyntaf.

Rhaid cyfaddef, doeddwn i ddim yn disgwyl dringo i fyny i uchelfannau Moel yr Hydd pan gychwynais o’r tŷ y bore hwnnw. Mae’n siŵr na fyswn i wedi mynd taswn i’n gwbod – dwi’n berson diog ar y naw. Ond, serch y tuchan a’r cwyno ar elltydd serth y mynydd, dwi’n andros o falch mod i wedi mynd.

Yr holl wybodus Dewi Prysor oedd yn arwain y daith, ac o’r cychwyn cyntaf cawsom straeon a hanesion difyr am wahanol greigiau, pyllau, nentydd, adfeilion a llynnoedd. Wrth i ni symud o Gwmorthin tuag at Rhosydd, daeth yn amlwg mai nad y ni yn unig oedd ar y mynydd y diwrnod hwnnw, ond Bear Grylls hefyd, isio chydig o hanes yr ardal gan yr arbennigwr o fri siŵr o fod!

Dyma ychydig o luniau o’r daith, cyn i’r niwl gael y gorau ohonom ni ar y copa. Dwi’n edrych ymlaen at fynd yn nol yno pan fydd y tywydd yn well er mwyn cael gweld dam Stwlan yn ei lawn ogoniant. Diolch i Dewi am daith difyr dros ben, a diolch i’r Tap am lobsgows bendigedig.