• Llun:  Llun - Gwen James
Taith Nanmor i Feddgelert
Iau 22 Chwefror 2018 / / Ysgrifennwyd gan Gwen Lasarus James

Roedd hi’n gaddo glaw drwy’r dydd ar ddydd Sadwrn 17 Chwefror, a ninnau ar gychwyn ar daith lenyddol o amgylch ardaloed Nanmor a Beddgelert. Fe wawriodd yn ddiwrnod braf a sych, diolch i’r drefn – arwydd da am daith dda.

Roedden ni i gyd yn cyfarfod ym maes parcio Aberglaslyn wrth y rhaeadr a dyma fwyta fy mhicnic yn fanno, wrth y dŵr, yn gwrando ar ymwelwyr o Loegr yn trio ynganu Aberglaslyn.

Am hanner awr wedi un dyma gychwyn yn ein ceir gan ddilyn Cynan Jones, y dyn madarch, ar hyd y lonydd bach cul drwy gefn gwlad lle’r oedd yr awyr bob lliw yn cyffwrdd a chopa’r Wyddfa. Roedd cyfle i adael ein ceir bob hyn a hyn, ac aros wrth dai hynafol hen feirdd a chael straeon difyr gan Cynan. Tynnu lluniau, a gwrando, a phwyso ar hen giât yn edrych ar yr olygfa a sylweddoli mai bychan iawn ydw i i gymharu â’r mynyddoedd mawr o’m hamgylch.

Yn tydan ni’n lwcus o gael byw ynghanol y fath harddwch a hanes?

Dyma ychydig o luniau o’r daith: