Tŷ Newydd 1989 a 2018
Maw 17 Gorffennaf 2018 / Ysgrifennwyd gan Margaret Jean Jones

Yn ystod ein 28 mlynedd fel Canolfan Ysgrifennu, mae nifer o wynebau cyfarwydd wedi dychwelyd i Dŷ Newydd ar hyd y blynyddoedd. Un o’r rheiny yw Margaret Jean. Mae wastad yn bleser cael sgwrs gyda Margaret dros y ffôn, neu dros baned pan mae’n galw heibio. Yr wythnos hon, mae hi yma ar Encil Yoga. Dyma gyfle perffaith felly i gael cofnodi pwt o hanes ei pherthynas hi a’r Ganolfan dros y blynyddoedd…

Ar fore hyfryd o haf lle gwell i dreulio encil na Thŷ Newydd, Llanystumdwy? Wrth ymlacio a setlo i lawr am bedwar diwrnod o encilio ac ymlacio drwy dechneg Yoga dan gyfarwyddyd Laura Karadog, daw llu o atgofion yn ôl i mi, am yr holl diwtoriaid a’r bobl yr wyf wedi eu cyfarfod yma ar amryw o gyrsiau rhwng 1989 a heddiw.

Yn Y Cymro y gwelais yr hysbysiad am y ganolfan newydd i ysgrifenwyr a’r cwrs dan hyfforddiant Irma Chilton – y wraig hynod a arloesodd mewn ysgrifennu ar gyfer yr arddegau.

Rhyw fath o encilio yma wnes i’r tro cyntaf hwnnw – encilio o realaeth unigrwydd. Y mae gennyf lawer i ddiolch i’r ganolfan, a dros y blynyddoedd y rwyf wedi profi iachâd a dedwyddwch wrth ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg, a throi am adra yn gyfoethocach fy myd.

Yr wyf eto i gael digon o hyder i ddod a llawer o’m gwaith i olau dydd, a thrwy hynny dalu teyrnged lawn i’r lle hyfryd ysbrydoledig hwn. T. Gwynn Jones ysgrifennodd

“Pe medrwn ado’r byd a’i bwys –

Gofidiau dwys a blinion,

Ba le y cawn i noddfa dlos?-

Yn Rhos y Pererinion.”

A dyna Dŷ Newydd i mi.

Margaret Jean Jones, Gorffennaf 2018