Diwrnod y Llyfr
Iau 1 Mawrth 2018 / , / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb. Mae hi hefyd yn Ddiwrnod y Llyfr, ac yn gyfle gwych i ymgolli mewn llyfrau o bob lliw a llun. Yn wahanol i ddisgyblion ysgol ar hyd a lled y wlad, fyddwn ni ddim yn gwisgo fyny fel ein hoff gymeriadau llenyddol heddiw (syniad ar gyfer y flwyddyn nesaf o bosib), ond yn hytrach dyma gasgliad byr o hoff lyfrau staff Llenyddiaeth Cymru yn Nhŷ Newydd.

“Sothach a Sglyfath gan Angharad Tomos ydi un o fy hoff lyfrau hyd heddiw. Does rûn llyfr arall wedi llwyddo i ymgartrefu yn fy nychymyg fel a wnaeth y llyfr hwn. Dwi’n dal i gael hunllefau am gael fy herwgipio i’r castell dychrynllyd hwnnw. Ond gan fy mod wedi ei ddarllen ganwaith – dwi hefyd yn cofio’r tric hud a lledrith fydd yn fy helpu i ddianc…”  – Leusa Llewelyn, Pennaeth Tŷ Newydd

“Un o fy hoff nofelau Cymraeg yw Cadw dy Ffydd, Brawd gan Owen Martell; nofel rymus sydd yn effeithiol wrth iddi ddweud pethau mawr mewn ffordd gynnil. Mi fyddwn i’n annog pawb i’w darllen – tydi hi ddim yn nofel rhy swmpus, felly does dim esgus!” – Ceri Collins, Rheolwr Safle Tŷ Newydd

“Allai ddim dewis fy hoff lyfr – mae o jyst rhy anodd. Ond, os oes rhaid i mi nodi un, dwi wrth fy modd hefo Llanw gan Manon Steffan Ros. Stori fendigedig am frawd a chwaer, Gorwel a Llanw, sy’n cael eu magu gan eu nain ar ôl colli eu mam yn ifanc. Dwi’n cael fy nhynnu nôl at y nofel hon dro ar ôl tro. Mae hi wir yn hyfryd. Dwi hefyd am roi bloedd y bore i Caersaint gan Angharad Price (werth ei darllen), Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard (clasur) a Perlau Neli gan Marian Jones (heb os, un o hoff lyfrau fy mhlentyndod).” – Miriam Williams, Swyddog Marchnata a Rhaglennu Tŷ Newydd

“Yn bendant, fy hoff lyfr Cymraeg i ydi straeon Y Mabinogi. Maen nhw’n wych.” -Tony Cannon, Cydlynydd Arlwyo a Lletygarwch Tŷ Newydd

“Dwi’n meddwl mai’r straeon mwyaf rhyfeddol, gwallgof a gwych ydw i wedi eu darllen ydi chwedlau’r Mabinogi – ac maen nhw’n perthyn i ni. Mae’r straeon wedi eu gwreiddio yn nhirlun Cymru; dwi’n gyrru heibio rhai o’r llefydd arbennig sy’n serennu yn y chwedlau bob dydd wrth deithio rhwng adref a’r gwaith. Maen nhw wedi ysbrydoli pob cenhedlaeth yn ei dro ac esgor ar bob ffurf o gelfyddyd hefyd. Cyfrol hardd Rhiannon Ifans a Margaret Jones wnaeth gyflwyno’r chwedlau imi gyntaf. Yna gydag addasiad Mererid Hopwood a Brett Breckon wnes i adrodd y straeon i fy mhlant.” – Mared Roberts, Rheolwr Llenyddiaeth yn y Gymuned

“Wedi hir bendroni am fy hoff lyfr Cymraeg, mae’n rhaid imi ddweud fod Y Beibl yn uchel ar fy rhestr. Mae yma straeon epig fel stori Noa yn adeiladu ei gwch mawr i ddal pob anifail, pry ac aderyn yn y deyrnas; stori Jona yn cael ei lyncu gan y morfil a stori Adda ac Efa. Mae yma gymeriadau fel Herod y Brenin gwallgof, sy’n ein hatgoffa o rai cymeriadau sy’n byw heddiw, a’r Angel Gabriel. Mae’r Salmau yn delynegol a rhai darnau yn darllen fel caneuon, diarhebion a barddoniaeth.” – Gwen Lasarus James, Swyddog Cymunedol

“Mae’n well gen i lyfrau ffeithiol gan amlaf, ond er hyn, un o fy hoff lyfrau yw Dygwyl Eneidiau gan Gwen Pritchard Jones. Mae hi’n seiliedig ar hanes teuluoedd cyfoethog a oedd yn byw ym Mhen Llŷn yn ystod yr 17eg ganrif, felly mae llawer o wirionedd ynddi. Ond mae hi hefyd yn stori llawn dirgelwch, ffantasi a hen arferion a thraddodiadau fel dathlu’r hen Galan Gaeaf. Mae hi’n nofel weledol iawn, gyda llawer o ddisgrifiadau am wisgoedd a chartrefi’r cymeriadau ac mae’r ffaith fy mod yn adnabod y lleoliadau ynddi yn ei gwneud hi’n stori fyw i mi. Mae angen i rywun wneud ffilm ohoni!” – Elan Rhys, Swyddog Prosiect Llên Pawb

Fel gwobr am ddarllen y blog hyd y diwedd, cofiwch am ein gostyngiad o 10% wrth ddefnyddio’r cod Dewi18. Mae’r cod yn ddilys hyd 15 Mawrth ar ein holl gyrsiau, ac eithrio Dosbarthiadau Meistr Barddoniaeth ac Ysgrifennu ar gyfer Perfformiad. Cliciwch yma i weld ein holl gyrsiau.