Wyt ti’n aelod o Sgwad ‘Sgwennu Gwynedd?
Maw 9 Hydref 2018 / , / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Wyt ti ym mlwyddyn 5 neu 6? Wyt ti’n hoffi ‘sgwennu? Gwna gais i fod yn aelod o Sgwad ‘Sgwennu Gwynedd

Mae Sgwad ‘Sgwennu Gwynedd yn cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc sydd wrth eu bodd yn ‘sgwennu, boed yn straeon, yn gerddi neu’n nofel! Mae’r Sgwad yn cwrdd yn rheolaidd ar gyfer gweithdai gydag awduron Cymraeg a Saesneg megis Manon Steffan Ros, Bethan Gwanas, Gillian Clarke, Malachy Doyle, Casia Wiliam, Eurig Salisbury a llawer mwy.

Mae Sgwad ‘Sgwennu Gwynedd yn chwilio am aelodau newydd. Os wyt ti ym mlwyddyn 5 neu 6, wrth dy fodd yn dychmygu straeon newydd cyffrous neu ysgrifennu cerddi am bob lliw a llun, beth am ymuno â ni? Mae’r Sgwad yn cwrdd ar ddyddiau Sadwrn rhwng 10.00 am – 2.00 pm (onid nodir yn wahanol), ac mae pob sesiwn yn costio £10 y pen.

Sgwad ‘Sgwennu yng nghwmni Sian Northey ac Aneirin Karadog ym mis Medi 2017

Yr holl sydd angen i ti ei wneud ydi gyrru darn o waith creadigol draw atom ni. Gall hwnnw fod yn stori, yn gerdd, yn sgript neu hyd yn oed yn nofel.

Byddwn yn derbyn ceisiadau hyd at ddydd Gwener 26 Hydref. Os cei di dy ddewis, byddi di’n cael gwahoddiad i ymuno â gweddill Sgwadiau 2018-2019 gydag Anni Llŷn, Andrea Parry a Bardd Plant Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sgwad ‘Sgwennu Gwynedd, dan ofal:

Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW / tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811