Dyma ddyddiadur a gadwyd gan Robin, a ddaeth ar brofiad gwaith i Dŷ Newydd ym mis Mehefin. Darllenwch ymlaen i ddysgu am ei brofiad…
“Mewn cuddfan yng nghanol gwyrddni Gogledd Cymru, mae Tŷ Newydd – be well? Pan welais Tŷ Newydd am y tro cyntaf ar y cyfryngau, roedd y llun yn dweud cyfrolau!
Felly penderfynais i e-bostio Llenyddiaeth Cymru, yn croesi bob dim, y buasai lle i mi ddod i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd am wythnos er mwyn cael profiad gwaith. Ym mhen dim, atebodd Miriam yn nôl, drwy rannu y newyddion gwych y bydd lle i mi. Roeddwn ar ben y byd!
Pan gyrhaeddais Tŷ Newydd ar ddydd Llun 9 Mehefin, roeddwn yn gwybod o’r funud cyntaf ei fod yn hudolus!
I ddechrau, gwelais Miriam, cefais daith cyflym o gwmpas y tŷ, ac wrth gwrs gwybod lle i wneud paned! Yna, cefais fynd i mewn i’r swyddfa, lle roeddwn yn gweithio am yr wythnos. Roedd yn ystafell braf a llawer o chwerthin yno. I ddechrau cefais baned o de, a cyfarfod staff y Swyddfa – dim ond Leusa a Miriam oedd mewn dydd Llun. Yna, cefais daith diddorol iawn gan Leusa o amgylch y tŷ, yn adrodd ei hanes a’r straeon difyr. Roedd yr ardd yn fendigedig, gyda llawer o flodau yn tyfu, a’r gwyrddni hyfryd fel blanced ar y llawr. Yn ogystal, roedd pob ystafell yn cynnig cymeriad i’r tŷ. I mi, y Llyfrgell oedd yr ystafell orau, gyda goleuni naturiol yn tasgu trwy’r ffenestri, a’r holl lyfrau gwahanol yn rhoi cymeriad i’r ystafell!
Yna, eisteddais lawr, ac edrych ar yr holl dasgau diddorol ac hwyl i’w wneud. Dechreuais gyda tasg gan Miriam sef edrych ar yr adborth gan bobl wnaeth gymryd rhan yn y 3 cwrs diwethaf. Gyda’r adborth roedd rhaid i mi lenwi ffurflen ar Excel, gyda’r pethau positif i gyd, a’r pethau oedd angen gwella (doedd dim llawer!!). Roedd yn hyfryd darllen negeseuon yr holl bobl yn canmol Tŷ Newydd i’r cymylau. Yn ogystal a hyn, cefais dasg gan Leusa – sef gwneud ffurflen Excel i fewnbynnu holl negeseuon pobl ar draws Ewrop o’r cwrs LLIF. Roedd hi’n anhygoel gweld yr holl bobl ar draws Ewrop yn mwynhau cwrs yn Nhŷ Newydd. Hefyd, cefais dasg gan y Llyfrgellydd, sef gosod arwyddion pren i ddangos lle roedd yr holl lyfrau yn y Llyfrgell a’r Lolfa Lên. Yn olaf, cefais dasg i greu holiadur ar gyfer y cwrs nesaf, felly mi fydd yn ddiddorol gweld yr adborth yn llifo mewn.
Ar ddydd Mawrth es i i Dafarn yr Heliwr, Nefyn, er mwyn gweld cwrs creadigol am natur yn cael ei gynnal gan Anni Llŷn. Yno, cyfarfodais aelod arall o Dŷ Newydd, sef Mared. Gyda’n gilydd aethom lawr i Rhandir – sef gardd gymunedol yr Heliwr, gyda ychydig o drigolion yr ardal leol, a’r artistiaid oedd yn cyd-weithio gyda Anni ar gyfer prosiect sy’n dechrau yn fuan. Roedd hi’n hyfryd cael eistedd allan yn yr haul, yn nghanol llwybrau o flodau gwyllt. Cawsom wybod am gynllun sut i ddechrau ysgrifennu barddoniaeth, yn ogystal a siawns i ysgrifennu cerdd sydyn ar natur. Yna, aethom yn nôl i fyny i’r Heliwr. Cefais gyfle i drio ‘Black Out Poetry’ – sef tasg o gael tudalen allan o Bapur Newydd, a cylchu ychydig o eiriau, a drwy’r geiriau – ysgrifennu darn o farddoniaeth. Cefais lawer o hwyl yno!
Yn y prynhawn, aeth Mared a fi yn nôl i Dŷ Newydd, lle roedd Miriam, Leusa, a cefais gyfarfod Lora am y tro cyntaf. Yna, cefais dasg hwyl i ymwneud â ‘A.I’ – sef edrych os oedd A.I yn gallu creu map, gyda 14 pin gwahanol mewn amryw o lefydd ar draws Ewrop a Chymru – i weld lle teithiodd aelodau o’r cwrs LLIF i ddod i Dŷ Newydd. Roedd hi’n andros o hwyl, ond mae’n saff i ddweud nad yw A.I wedi cymryd drosodd … eto! Yn ogystal, roedd Leusa yn teimlo nad oedd hi’n bosib i gael profiad gwaith heb gael cyfarfod. Felly, aethom i fyny i’r Llyfrgell, gyda paned, er mwyn cael cyfarfod. Roedd y cyfarfod yma’n werth chweil! Roedd Leusa mor addysgol, ac yn fy nysgu ar beth oedd Llenyddiaeth Cymru yn ei wneud, a beth yw’r broses tu-ôl i’r wefan. Roedd yn anhygoel! Ar ôl y cyfarfod, cefais dasg gan Mared i ysgrifennu Blog/Stori Newyddion ar gyfer Diwrnod Gweu Rhyngwladol (dydd Sadwrn, 14eg o Fehefin). Yn ogystal â hyn, roedd rhaid mynd yn nôl i drafod y prosiect – ‘Gair mewn Gwlân’ ddigwyddodd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn 2023. Felly, e-bostiais Esyllt Maelor (aelod o’r grŵp Gweill Gobaith, ac o bwyllgor llên yr Eisteddfod), a Gwenan Griffith (Rheolwr Prosiect Ecoamgueddfa Llŷn) er mwyn casglu dyfyniadau o’r digwyddiad pwysig. Roedd hi’n arbennig gweld y cydweithio yn pontio’r cenhedlaethau ifanc gyda’r hŷn.
Yn anffodus, roeddwn yn sefyll arholiad Mathemateg yn yr ysgol Dydd Mercher, felly dywedodd Miriam y byswn yn cael seibiant ar ôl yr arholiad! Diolch Miriam
Yna, dydd Iau, cefais dasg gan Miriam – sef creu pecyn ‘Canllaw Cyflym’ yn ddwyieithog, er mwyn addysgu yr ymwelwyr ar beth sydd yna i’w wneud o gwmpas yr ardal leol. Roedd hi’n ddiddorol ymchwilio i mewn i fy ardal leol a darganfod pethau newydd i’w wneud. Yn ogystal, caniatawodd y dasg yma i mi werthfawrogi y golygfeydd, ac amryw o weithgareddau sydd ar gael. Ymchwiliais i fwytai lleol, safleoedd natur lleol, ac hanes a threfidigaethau lleol. Roedd hi’n dasg diddorol iawn. Yn ogystal â hyn, creais bywgraffiadau ar gyfer panel beirniaid Bardd Plant Cymru, a chreu rhestr fawr o syniadau cyrsiau undydd ar gyfer rhaglen cyrsiau’r ganolfan yn 2026.
Ond wedyn, daeth diwedd yr wythnos.
Cyrhaeddais y swyddfa, a gweld Miriam a Lora. Dechreuais gyda tasg gan Lora, sef dylunio asedau ‘This or That’, wedi’w hysbrydoli gan Tŷ Newydd ar Canva. Roedd hi’n llawer o hwyl cael crwydro o amgylch y safle i ffeindio ysbrydoliaeth a llyniau perthnasol er mwyn rhannu’r dyluniadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar ôl hyn, cefais dasg gan Miriam, sef i fynd o amgylch pob ystafell yn y safle, i weld os oedd y trydan yn gweithio, neu os oedd rhaid cysylltu gyda’r Trydanwr – roedd pob dim yn gweithio! Cefais lawer o hwyl yn mynd o amgylch y safle a cael cyfle i weld natur a’r golygfeydd arbennig oedd o gwmpas Tŷ Newydd.
Trwy gydol yr wythnos mi roedd y swyddfa yn brysur, gyda cwrs preswyl ysgrifennu hunangofiant yn llenwi’r ganolfan. Roedd y criw yn rhai bywiog iawn, a sgyrsiau difyr i’w cael.
I gloi, dwi eisiau diolch i’r holl staff am wneud fy wythnos yn Nhŷ Newydd yn un bythgofiadwy. Diolch i Leusa am y daith hyfryd o gwmpas y safle, ac am y cyfarfod hynod o ddiddorol; diolch i Mared am y profiad bendigedig yn yr Heliwr gyda Anni Llŷn; diolch i Lora am y dasgau difyr a’r chwerthin; diolch i Nicola a Tony am y sgyrsiau difyr; ond yn bennaf diolch i Miriam, am drefnu’r wythnos, ac am wneud hwn yn un o’r wythnosau mwyaf diddorol yn fy mywyd! Diolch i chi gyd!
Mae Tŷ Newydd yn ganolfan hynod o hyfryd, gyda gwyrddni a golygfeydd godidog yn ei amgylchynu. Credaf mai hwn yw’r lle gorau i gael profiad gwaith (os oes diddordeb mewn byd Llenyddiaeth Cymru). Mae’n le hyfryd iawn.
Diolch!”