Y Tipi Olaf ar Daith
Mer 17 Hydref 2018 / , / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Daeth y syniad am Y Tipi Olaf gan Bet Huws, a diolch iddi hi am hynny, ar ôl iddi hi ddarllen The Last Tipi gan Kris Landry. Llyfr sydd yn darlunio bywydau brodorion De America yn ymweld â thipi ac yn adrodd eu straeon dro ar ôl tro nes bod y stori olaf wedi ei adrodd. Gwelodd fod hyn yn gatharsis i’r merched ac yn fodd o wella unigolion yn dilyn profiadau anodd.

Roedd ein Tipi Olaf ni yn anelu at roi cyfle i ferched yn ardal Caernarfon ddod at ei gilydd i adrodd eu straeon nhw. Yr actor, cyflwynydd a’r awdur Ffion Dafis fu’n arwain tri gweithdy ysgrifennu yn Llyfrgell Caernarfon gyda chriw o ferched lleol. Mae gan bob un ohonynt eu stori eu hunain, a’r rheiny yn straeon sydd angen eu clywed. Yn ystod y gweithdy olaf ar 27 Mehefin, sef Diwrnod Cenedlaethol Ysgrifennu, cafodd y merched gyfle i recordio eu straeon yng nghwmni Dafydd Hughes o gwmni Amcan. Y straeon hynny sydd wedi eu gosod yn y tipi yma, gyda chroeso cynnes i chi wrando arnynt. Roedd preifatrwydd y merched yn holl bwysig i ni, ac fe barchwyd hynny drwy sicrhau fod cyfrinachedd yn holl bwysig trwy gydol y prosiect.

Roedd cyfle i’r cyhoedd ymweld â’r tipi a gwrando ar y straeon yn ystod Gŵyl Arall, Caernarfon ym mis Gorffennaf.

Bydd Y Tipi Olaf ar daith mewn pedair llyfrgell yng Ngwynedd yn ystod misoedd Hydref, Tachwedd a Rhagfyr eleni, gan gychwyn yn Llyfrgell Dolgellau (23 Hydref – 6 Tachwedd), cyn ymweld â Llyfrgell Tywyn (6 – 20 Tachwedd), Llyfrgell Blaenau Ffestiniog (20 Tachwedd – 4 Rhagfyr) a Llyfrgell Porthmadog (4 – 18 Rhagfyr).

Y straeon hynny sydd wedi eu gosod yn y tipi yma, gyda chroeso cynnes i chi wrando arnynt. Roedd preifatrwydd y merched yn holl bwysig i ni, ac fe barchwyd hynny drwy sicrhau fod cyfrinachedd yn holl bwysig trwy gydol y prosiect.

Mae’n diolch yn fawr i’r canlynol: Grant Buddsoddi Cymunedol Cartrefi Cymunedol Gwynedd; i Bet Huws am y syniad; Ffion Dafis; Dafydd Hughes; Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd; a’r merched am rannu eu straeon.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org