Dyma erthygl a ysgrifennwyd gan Martin Coleman ar ôl ymweld â Thŷ Newydd ar gwrs preswyl Ysgrifennu Creadigol i Ddysgwyr Cymraeg yn Hydref 2015 dan diwtoriaeth Bethan Gwanas ac Aled Lewis Evans. Ymddangosodd yr erthygl yn wreiddiol yn Llais y Dderwent, papur bro i ddysgwyr Cymraeg Canolbarth Lloegr.
Do’n i ddim yn sylweddoli cyn mynd, ond roedd mynd i Dŷ Newydd yn garreg filltir yn fy nhaith fel rhywun sy wedi dysgu Cymraeg. Do’n i ddim wedi bod i’r ardal o’r blaen ac roedd golwg braf a hafaidd ar y lle pan gyrhaeddais y pentref tlws sy’n enwog am ei gysylltiadau â Lloyd George. Yn ogystal ag Amgueddfa Lloyd George, mae bedd cyn prif weinidog wedi ei leoli mewn llecyn tawel wrth yr Afon Dwyfor sy’n rhedeg trwy’r pentref. Tŷ Newydd oedd cartref olaf Lloyd George. Efallai bod hynny’n cyfrannu rhywfaint o ysbrydoliaeth i’r bobl sy’n dod yn y gobaith o wella eu hygrifennu?
Roedd 14 o bobl ar y cwrs a redwyd gan Aled Lewis Evans a Bethan Gwanas, dau awdur cydnabyddedig sy’n byw yng ngogledd Cymru. Mae gan y ddau ohonynt ffyrdd gwahanol o ysgrifennu. Dw i wedi mwynhau eu llyfrau yn y gorffennol ac roedd hi’ bur bleser cael eu cwmni, arweiniad a chyngor.
Roedd amrywiaeth o weithgareddau lle gweithion ni ar ein pennau ein hunain a mewn grwpiau. Roedd rhain yn cynnwys creu cymeriadau, ysgrifennu pethau a oedd yn seiliedig ar baentiadau, ysgrifennu tudalen o nofel yn unig ac ysgrifennu am ddau gyfnod gwahanol yn ein plentyndod. Mi gawson ni adborth a chyngor trwy’r holl gwrs ac mi ddarganfyddais fod y broses yn adeiladol iawn, ond mae ysgrifennu o ddifri’n lluddedus iawn oherwydd yr holl ymdrech sydd ei angen.
Mi faswn i’n defnyddio’r gair ‘cartrefol’ i ddisgrifio Tŷ Newydd. Mae’r staff mor gyfeillgar ac mae’n amlwg bod nhw’n ymfalchio yn y Gymraeg ac mi fyddan nhw’n rhoi cymorth i unrhywun sydd eisiau meistroli’r hen iaith. Roedd y lle ei hun mewn lleoliad bendigedig. Mae rhodfa goediog yn arwain at dŷ gwyn sy wedi’i leoli mewn gerddi heddychol a oedd yn arbennig o brydferth yn yr hydref cynnar. Mi gyrhaeddon ni fel roedd y dail yn troi ac yn disgyn i’r lawntiau twt. Ar ôl i mi rodio i ben yr ardd, mi ges i fy nghyfarch gan olygfa hudol o’r môr ar draws y caeau a oedd i’w gweld trwy sawl bwlch yn y gwrych.
Oeddwn i wedi pacio digon o bapur? Oeddwn. Pan edrycha i ar yr hyn dw i wedi ei ysgrifennu, dw i’n siwr y bydd llwyth o atgofion melys a chynnes yn dod i’m meddwl. Ro’n i’n nerfus am fynd, ond dw i’n falch i mi fynd yn y pen draw. Unwaith eto, mi gwrddais â phobl newydd yn ogystal â gweld rhai wynebau a oedd yn gyfarwydd. Gobeithio y caf fynd yn ôl yn y dyfodol a gobeithio y cafodd pawb a fynychodd y cwrs amser braf hefyd. Roedd y profiad yn hynod o arbennig.