Ymson Ann Williams
Mer 19 Rhagfyr 2018 / / Ysgrifennwyd gan Lleucu Angharad Hughes

Mae Lleucu Angharad Hughes yn aelod o Sgwad ‘Sgwennu Gwynedd. Yn ddiweddar, bu’r Sgwad draw yng Nghanolfan Cae’r Gors yn gweithio gyda Karen Owen a Branwen Haf Williams. Cartref Kate Roberts, Brenhines Ein Llên, yw Cae’r Gors. Dyma ymson a ysgrifennodd Lleucu yn dilyn y Sgwad.

______________________________________________________________________________________________________

Ymson Ann Williams

Newydd gyrraedd Cae’r Gors. Y peth mae Mam wedi ei ddweud drosodd a throsodd ydy, ‘bydda’n gwrtais, maen nhw wedi bod drwy lot,’ bob cam o’r ffordd yma.

Dw i’n gwybod bod nhw yn ddigalon ond does dim eisiau sôn am Dei o hyd. I ddweud y gwir doeddem ni ddim mor agos â hynny, o achos roedd o yn un deg naw, a deg oed ydw i. Ond roedd o yn agos iawn at Kate, hi oedd ei chwaer fawr o. Mae Anti Cath yn edrych yn ofnadwy. Mae ei llygaid brown yn edrych fel petai rywbeth ar goll ynddynt.

Mae’r tŷ yn teimlo’n oerach na’r tro diwethaf i mi fod yma’, mae pob man yn edrych yn fwy llwm. Mae o’n edrych mor wag fel petai rywbeth pwysig ar goll. Mae’n deimlad afiach bod yma, dw i’n teimlo’n unig ac ar goll. Mae’r tŷ hyd yn oed yn methu Dei. Mae o wedi marw ers pythefnos.

Dacw hi Kate, mae hi’n ysgrifennu rhywbeth ar y llechen. Dydy Kate ddim yn siarad efo fi, mae hi’n edrych yn syn arna ‘i ac yna’n mynd yn ôl i edrych ar y llechen. Dydy hi ddim yr un Kate dw i’m ei hadnabod. Mae’r Kate yma ‘n ddiarth i fi. Dw i isio mynd o ’ma’n barod. Mae mam yn siarad hefo Anti Cath , dim ond clywed pytiau bach o’r sgwrs ydw i am eu bod nhw’n sibrwd. “O fy annwyl chwaer sut wyt ti’n ymdopi “ neu rywbeth fel hynny. Ar ôl dipyn mae Anti Cath yn codi ac yn diflannu i’r cefn, gan godi’r hances wen yn ddi-baid at ei llygaid.

Syllu ar y llechen mae Kate o hyd. Bob hyn a hyn mae sgrech y pin sgwennu i’w glywed yn erbyn y garreg oer. Mae’n deimlad ofnadwy gweld Kate fel hyn. Mae hi wedi colli ei hysbryd yn llwyr. Och, mae hi mor oer yma mae’r teimlad fel ganol gaeaf. Mae Kate yn edrych arna ‘i fel petawn i’n wallgo’ ac yna mae hi’n rhoi ei phen i lawr ac ysgrifennu ar y llechen. Daw Anti Cath yn ôl o’r cefn gyda jwg o ddŵr i lenwi’r tegell sy’n crogi uwchben y tân agored. Paned o de. Mae’n well gen i ddŵr. Och, dw i’n dyheu am fod adre. Alla’i ddim diodde’ gweld Kate fel hyn. Wedi i mam ac Anti Cath orffen eu paned, o’r diwedd dw i’n cael mynd adra.

“Da bo chi,” ydy geiriau cyntaf Kate heddiw.

Lleucu Angharad Hughes