Adrodd Straeon: Crefft y Cyfarwydd (Cwrs Canolradd)

Llu 22 Mehefin 2026 - Gwe 26 Mehefin 2026
Tiwtoriaid / Daniel Morden & Phil Okwedy
Darllenydd Gwadd / Jan Blake
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Adrodd Straeon
Iaith / Saesneg

Dyma gwrs adrodd straeon ar gyfer y rheini sydd â rhywfaint o brofiad o berfformio straeon traddodiadol yn fyw, naill ai i blant neu oedolion. Er bod chwedlau oesau gynt yn cynnig llu o drosiadau, yn aml maen nhw hefyd yn cynnwys agweddau a gwerthoedd hen ffasiwn a phroblematig.

 

Straeon gwerin, straeon tylwyth teg a hanesion ein hynafiaid ydy’r sail ar gyfer pob stori sydd wedi’i hadrodd ers hynny, gan gynnwys dramâu, nofelau, barddoniaeth a sgriptiau ffilm. Mae’r hen straeon yn dal i ysbrydoli beirdd, artistiaid, awduron a dramodwyr hyd heddiw. Yn syfrdanol, yn hudolus, yn deimladwy a dwys, mae straeon traddodiadol yn diffinio’r profiad dynol.

 

Yn ystod y cwrs bydd Phil a Daniel yn cynnig ymarferion a strategaethau i alluogi cyfranogwyr i ddatblygu fersiwn o stori sy’n berthnasol heddiw. Gofynnir i gyfranogwyr anfon stori draddodiadol fer yr hoffent ei harchwilio ymlaen llaw. Bydd y cwrs yn cynnwys sesiynau un-i-un, gwaith grŵp a pherfformiad yn nhŷ crwn Felin Uchaf yn Rhoshirwaun ger Aberdaron.

Tiwtoriaid

Daniel Morden

Mae Daniel Morden yn adrodd straeon traddodiadol ers 1989. Mae wedi adrodd straeon ar draws y byd, o wledydd y Môr Tawel i'r Arctig i'r Caribî. Mae'n adnabyddus am ei ail-ddehongliadau eglur o chwedlau Groegaidd, a'i berfformiadau angerddol o chwedlau Cymraeg. Mae'n awdur sawl casgliad o straeon gwerin, gan gynnwys Dark Tales from the Woods (Gomer, 2006) a enillodd Wobr Tir na n-Og. Yn 2017 dyfarnwyd Medal Gŵyl y Gelli iddo am ei waith adrodd straeon. www.danielmorden.org

Phil Okwedy

Adroddwr straeon perfformiadol a chrëwr chwedlau ydy Phil Okwedy, a aned yng Nghaerdydd i fam o Gymru a thad o Nigeria. Mae’n tynnu'n helaeth ar ei dreftadaeth ddeuol a'i ddiwylliannau lluosog. Mae'n perfformio'n rheolaidd mewn clybiau adrodd straeon ac mae wedi ymddangos yn Beyond the Border ac yng Ngŵyl Chwedleua Aberystwyth, yn ogystal â Gŵyl Kea yng Ngwlad Groeg a Gŵyl Fabula yn Sweden. Yn 2018 cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Wil & the Welsh Black Cattle (Gomer, 2018), sef cyfres o straeon gwerin Cymreig wedi'u seilio ar chwedloniaeth yr hen borthmyn. Yn 2021 dyfarnwyd lle iddo ar raglen Cynrychioli Cymru, sef rhaglen datblygu awduron Llenyddiaeth Cymru, ac yn 2022-23 aeth ar daith o gwmpas y wlad gyda'i sioe adrodd straeon gyntaf, The Gods Are All Here, gan dynnu ynghyd chwedlau, straeon gwerin a hanes personol Phil ei hun wedi'i sbarduno ar ôl darganfod cyfres o lythyrau oddi wrth ei dad yn Nigeria at ei fam yng Nghymru.

 

 

Darllenydd Gwadd

Jan Blake

Mae'r adroddwr straeon arobryn Jan Blake wedi bod yn perfformio ledled y byd ers 1986. A hithau wedi'i geni ym Manceinion i rieni o Jamaica, mae Jan yn arbenigo mewn chwedlau gwerin a mythau o'r Caribî, Gorllewin Affrica, Gogledd Affrica, a'r rhanbarthau Arabaidd. Gan ei bod yn arloesi o hyd, mae ganddi enw da haeddiannol am waith adrodd straeon deinamig a hael. Mae’n ymddangos yn y rhan fwyaf o wyliau adrodd straeon rhyngwladol mawr, mae’n arwain gweithdai adrodd straeon i ysgolion a phrifysgolion ac mae wedi cyfrannu at raglenni Radio’r BBC. Gyda phresenoldeb hudolus a dawn am ddod â straeon traddodiadol yn fyw, mae Jan wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd. Gan dynnu ar ei repertoire helaeth o straeon gwerin, mythau a chwedlau o Affrica a’r Caribî, mae perfformiadau Jan yn mynd â gwrandawyr draw i diroedd pell ac yn ôl i hen oesau, gan eu swyno gyda grym ei dawn adrodd straeon. Yn 2021, lansiodd ei hysgol adrodd straeon ar-lein ei hun, sef Prosiect Chwedleua Akua. Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu cenhedlaeth newydd o adroddwyr straeon rhyngwladol sy’n ymrwymo i ymgysylltu’n ddyfnach â'u harferion adrodd straeon.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811