Bardd ac awdur sy'n byw rhwng Caergrawnt a Glasgow yw Hollie McNish. Hi oedd y bardd cyntaf i recordio yn Stiwdios Abbey Road, Llundain, ac enillodd Wobr Ted Hughes am Waith Newydd mewn Barddoniaeth am ei chofiant barddonol am fod yn rhiant – Nobody Told Me (Blackfriars, 2016) – gyda The Scotsman yn cyfeirio at ei chofiant gan ddweud 'Mae angen y llyfr yma ar y byd'. Mae wedi cyhoeddi pum casgliad arall o farddoniaeth – Papers (Greenwich Exchange, 2012), Cherry Pie (Llyfrau Burning Eye, 2015), Plum (Picador, 2017), a Slug (Fleet, 2022) a Lobster (Fleet, 2025), y ddau wedi bod ar restrau gwerthwyr gorau The Sunday Times, gyda chyfieithiadau yn Ffrangeg (Je Souhaite Seulement Que Tu Fasses Quelquechose De Toi) a Sbaeneg (Cosas Que Mis Abuelas). Mae wrth ei bodd yn ysgrifennu. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Virgin (Fleet, 2025).
Barddoniaeth a Pherfformio
** WEDI GWERTHU ALLAN** os hoffech cael eich ychwanegu i’n rhestr aros, cysylltwch â ni.
Ymunwch ag Enillydd Gwobr Ted Hughes Hollie McNish ac Awdur Preswyl diweddaraf Prifysgol Caeredin Michael Pedersen mewn cwrs penwythnos bywiog ac addysgiadol ar farddoniaeth a pherfformio. Mae’r cwrs wedi’i anelu at awduron newydd sbon a phrofiadol, ac mae’n addas i unrhyw un sy’n dymuno dysgu mwy am rannu eu gwaith ar lafar, os ydych chi eisoes yn berfformiwr cymharol hyderus, yn chwilfrydig, neu sy’n fferru gan ofn wrth feddwl am y peth. Mewn amgylchedd cefnogol ac ymlaciol, bydd y tiwtoriaid yn archwilio barddoniaeth lafar ac wedi’i sgriblo, gyda’r nod o feithrin hyder, sgil, a mwynhad wrth ysgrifennu a rhannu eich gwaith.
Tiwtoriaid
Hollie McNish
Michael Pedersen
Bardd, awdur, sgriblwr a phwythwr clodwiw yw Michael Pedersen. Mae’n Awdur Preswyl ym Mhrifysgol Caeredin ar hyn o bryd. Mae wedi rhyddhau dau gasgliad o farddoniaeth gyda Polygon Books, a chyhoeddwyd y trydydd (The Cat Prince & Other Poems) gan Corsair/Little Brown ym mis Gorffennaf 2023 – ac mae’r gerdd dan yr un teitl ar restr fer Gwobrau Forward ar hyn o bryd. Cafodd ei ryddiaith gyntaf, Boy Friends, ei chyhoeddi gan Faber & Faber yn 2022 yng ngwledydd Prydain ac yng Ngogledd America, gan gyrraedd rhestr Dewis y Beirniaid y Sunday Times. Mae wedi ennill Cymrodoriaeth Robert Louis Stevenson, Gwobr Seren Newydd Llenyddiaeth John Mather, a chyrhaeddodd rownd derfynol Awdur y Flwyddyn 2018 yng Ngwobrau Diwylliant yr Alban The Herald. Gyda’i waith wedi’i gynnwys mewn blodeugerddi fel rhai Pan MacMillan a Canongate Books, mae Pedersen wedi cydweithio gyda cherddorion, gwneuthurwyr ffilm, ac artistiaid gweledol.