Barddoniaeth a Pherfformio

Gwe 28 Mehefin 2024 - Sul 30 Mehefin 2024
Tiwtoriaid / Hollie McNish & Michael Pedersen
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genres / BarddoniaethPerfformioPerfformio Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

** WEDI GWERTHU ALLAN** os hoffech cael eich ychwanegu i’n rhestr aros, cysylltwch â ni.

 

Ymunwch ag Enillydd Gwobr Ted Hughes Hollie McNish ac Awdur Preswyl diweddaraf Prifysgol Caeredin Michael Pedersen mewn cwrs penwythnos bywiog ac addysgiadol ar farddoniaeth a pherfformio. Mae’r cwrs wedi’i anelu at awduron newydd sbon a phrofiadol, ac mae’n addas i unrhyw un sy’n dymuno dysgu mwy am rannu eu gwaith ar lafar, os ydych chi eisoes yn berfformiwr cymharol hyderus, yn chwilfrydig, neu sy’n fferru gan ofn wrth feddwl am y peth. Mewn amgylchedd cefnogol ac ymlaciol, bydd y tiwtoriaid yn archwilio barddoniaeth lafar ac wedi’i sgriblo, gyda’r nod o feithrin hyder, sgil, a mwynhad wrth ysgrifennu a rhannu eich gwaith.

Tiwtoriaid

Hollie McNish

Bardd ac awdur yw Hollie McNish, ac mae’n byw rhwng Glasgow a Chaergrawnt. Hi oedd y bardd cyntaf i recordio yn Stiwdios Abbey Road, Llundain, ac enillodd Wobr Ted Hughes am Waith Newydd mewn Barddoniaeth am ei chofiant barddonol am fod yn rhiant – Nobody Told Me (Little Brown, 2016) – gyda The Scotsman yn dweud “Mae angen y llyfr hwn ar y byd”. Mae hi wedi cyhoeddi pedwar casgliad arall o farddoniaeth – Papers (Greenwich Exchange, 2012), Cherry Pie (Burning Eye Books, 2015), Plum (Pan MacMillan, 2017) a Slug (Little Brown, 2021) a gyrhaeddodd restr goreuon gwerthiant y Sunday Times. Mae ei llyfr newydd, Lobster, and other things I'm learning to love allan nawr (Little Brown, 2024). www.holliemcnish.com  

Michael Pedersen

Bardd, awdur, sgriblwr a phwythwr clodwiw yw Michael Pedersen. Mae’n Awdur Preswyl ym Mhrifysgol Caeredin ar hyn o bryd. Mae wedi rhyddhau dau gasgliad o farddoniaeth gyda Polygon Books, a chyhoeddwyd y trydydd (The Cat Prince & Other Poems) gan Corsair/Little Brown ym mis Gorffennaf 2023 – ac mae’r gerdd dan yr un teitl ar restr fer Gwobrau Forward ar hyn o bryd. Cafodd ei ryddiaith gyntaf, Boy Friends, ei chyhoeddi gan Faber & Faber yn 2022 yng ngwledydd Prydain ac yng Ngogledd America, gan gyrraedd rhestr Dewis y Beirniaid y Sunday Times. Mae wedi ennill Cymrodoriaeth Robert Louis Stevenson, Gwobr Seren Newydd Llenyddiaeth John Mather, a chyrhaeddodd rownd derfynol Awdur y Flwyddyn 2018 yng Ngwobrau Diwylliant yr Alban The Herald. Gyda’i waith wedi’i gynnwys mewn blodeugerddi fel rhai Pan MacMillan a Canongate Books, mae Pedersen wedi cydweithio gyda cherddorion, gwneuthurwyr ffilm, ac artistiaid gweledol. 

  

   

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811