Mae Natalie Ann Holborow yn enillydd Gwobr Terry Hetherington a Gwobr Robin Reeves, yn un o deilyngwyr Gwobr Rheidol am ffuglen ac mae wedi bod ar restr fer Gwobr Bridport a Gwobr Gair Llafar Cursed Murphy. Drwy breswylfeydd ysgrifennu gyda’r Cyngor Prydeinig, Llenyddiaeth Cymru a Kultivera, mae wedi ysgrifennu a pherfformio barddoniaeth yng Nghymru, Iwerddon, Sweden ac India. Mae’n awdur y casgliadau o farddoniaeth And Suddenly You Find Yourself (Parthian, 2017), Small (Parthian, 2020), a Little Universe (Parthian, 2024), a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2025, ac sydd wedi ymddangos ar The Verb ar BBC Radio 4. Mae Wild Running, ei llyfr ffeithiol cyntaf, allan gyda Seren ac wedi’i gynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn.
Barddoniaeth: Ail-adrodd Atgofion
“Atgofion yw mam yr awen, medden nhw; ac oes, mae yna athrylith yn y cof. Ond mae’n rhaid i chi wneud rhywbeth ag e.” – Robert Lowell
Y gwir ydy bod y cof yn ddryswch. Ond mae ei diriogaeth yn ddiderfyn – yn newid, yn effro, ac yn werthfawr. Sut allwn ni fanteisio ar y gronfa gyfoethog yma gan wneud mwy nag ail-adrodd y digwyddiadau? Byddwn yn trafod cerddi sy’n cydnabod ac yn ymgorffori cymhlethdodau’r cof drwy ddefnyddio ffurf, delweddau ac ail-adrodd.
Cyfle i archwilio ffyrdd o blethu’r hyn sy’n wir a’r hyn sydd wedi’i ail-ddychmygu, o greu naratifau anghydlynol, o ddefnyddio ail-adrodd yn effeithiol, ac o gymylu’r llinellau rhwng gwirionedd a dyfeisgarwch. Bydd yna weithdai grŵp, tiwtorialau un-i-un gydag adborth ar eich gwaith, ac ymarferion gydag arweiniad fydd yn amlygu ffyrdd diddorol o ymdrin â’ch barddoniaeth eich hun.
Tiwtoriaid
Natalie Ann Holborow
Theresa Lola
Bardd ac artist amlddisgyblaethol Prydeinig o Nigeria yw Theresa Lola. Mae wedi perfformio yn Neuadd Albert ac yn y Jazz Café, wedi’i chomisiynu gan Rimowa a Selfridges, ac wedi dylunio rhaglenni ar gyfer Oriel Luniau Dulwich ac Amgueddfa Hackney. Mae’n awdur dau gasgliad o farddoniaeth. Mae cerdd o’i llyfr cyntaf In Search of Equilibrium (Nine Arches Press, 2019) ar y maes llafur TGAU yng ngwledydd Prydain. Cafodd ei hail gasgliad Ceremony for the Nameless (Penguin, 2024) ganmoliaeth yn y Guardian fel llyfr sy'n sicrhau ei lle fel arloeswr i don newydd o feirdd.
Darllenydd Gwadd
Hanan Issa (Digidol)
Mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa yn fardd, gwneuthurwr ffilm ac artist Iraci-Gymreig o Gaerdydd. Mae ei gweithiau diweddar yn cynnwys ei chasgliad barddoniaeth My Body Can House Two Hearts (Burning Eye Books, 2019) a’i chyfraniadau i Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (Repeater Books, 2022). Perfformiwyd ei monolog buddugol ‘With Her Back Straight’ yn Bush Theatre fel rhan o’r Hijabi Monologues. Roedd hi hefyd yn rhan o ystafell awduron cyfres arloesol Channel 4, We Are Lady Parts, ochr yn ochr â’i dyfeisiwr arobryn, Nida Manzoor. Derbyniodd Hanan gomisiwn 2020 Ffilm Cymru / BBC Wales ar gyfer ei ffilm fer The Golden Apple. Mae ei gwaith wedi’i berfformio a’i gyhoeddi ar blatfformau fel BBC Wales, ITV Wales, Huffington Post, Gŵyl StAnza, Poetry Wales, Y Stamp, Wales Arts Review, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council. Cyd-sefydlodd Hanan y noson meic agored Where I’m Coming From yng Nghaerdydd.