Bydd chweched casgliad Clare Pollard o farddoniaeth, Lives of the Female Poets, yn cael ei gyhoeddi gan Bloodaxe yn 2025. Bu'n Olygydd Barddoniaeth Fodern mewn Cyfieithiad am bum mlynedd ac ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Farddoniaeth Winchester. Yn 2022, cyrhaeddodd ei cherdd 'Pollen' – a gyhoeddwyd gyntaf yn Bad Lilies – restr fer Gwobr Forward am y Gerdd Unigol Orau. Mae ei chyfieithiadau yn cynnwys Heroines Ovid, a deithiodd fel sioe un wraig gyda Jaybird Live Literature. Mae Clare hefyd yn gweithio ar draws genres llenyddol eraill. Perfformiwyd ei drama The Weather yn Theatr y Royal Court. Mae hi wedi ysgrifennu llyfr ffeithiol, Fierce Bad Rabbits: The Tales Behind Childrens' Picture Books (Penguin, 2020), ei nofel gyntaf i blant, The Untameables (The Emma Press, 2024), a dwy nofel i oedolion, Delphi (Penguin, 2023) a The Modern Fairies (Penguin, 2024). Yn ddiweddar fe'i gwnaed yn Gymrawd y Gymdeithas Llenyddiaeth Frenhinol.
Barddoniaeth: Canfod dy lais
Mae’r cwrs hwn bellach yn llawn. Os am ychwanegu’ch enw at y rhestr aros, cysylltwch â ni ar tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811
Yn y gyfrol, ‘The Art of Voice’ mae’r bardd Tony Hoagland yn nodi bod ‘llais yn ymgorffori, nid unrhyw set o ffeithiau penodol, ond presenoldeb hunan, personoliaeth neu ymdeimlad’. Dros wythnos o weithdai dan arweiniad Clare Pollard ac Owen Sheers ac amser ysgrifennu unigol, byddwn yn edrych ar yr ‘Fi’ mewn barddoniaeth delynegol a chyffesol, gan ganolbwyntio ar feysydd fel tafodiaith, arddull, perfformiad a’r cwestiwn o ‘ddilysrwydd’. Byddwn hefyd yn meddwl am yr ‘arall’ barddonol, a sut i greu lleisiau unigryw ar gyfer cymeriadau, gan gyfeirio at fonologau dramatig, cerddi ffilm wedi’u hysbrydoli gan berfformiadau llafar a dramâu barddonol. Gallwch ddisgwyl sesiynau tiwtorial un i un gydag adborth wedi’i deilwra ar eich gwaith, gweithdai grŵp bywiog, ymarferion gwreiddiol ac awgrymiadau i’ch annog i feddwl ac ysgrifennu mewn ffyrdd newydd ac os dymunwch, digon o gyfleoedd cefnogol i ddarllen yn uchel.
Bwrsariaethau
Mae un ysgoloriaeth gwerth £250 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mawrth 22 Gorffennaf 2025.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/
Tiwtoriaid
Clare Pollard
Owen Sheers
Bardd, awdur a dramodydd clodwiw yw Owen Sheers. Mae wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn ddwywaith, wedi cael Gwobr Ddiwylliant Dewi Sant 2016 a Gwobr Farddoniaeth Wilfred Owen 2018. Ymhlith ei gyhoeddiadau barddonol mae The Blue Book (Seren Books, 2000), Skirrid Hill (Seren Books, 2005) a Pink Mist (Faber & Faber, 2014), a addaswyd ar gyfer y llwyfan gan Bristol Old Vic a’i chynnwys ar restr deg drama orau’r flwyddyn gan The Guardian. Enillodd ei gerdd-ffilm ar gyfer y BBC The Green Hollow dair gwobr BAFTA Cymru, gan gynnwys am yr Awdur Gorau, a’i henwebu am wobr BAFTA. Cafodd To Provide All People, ei gerdd-ffilm ddiweddaraf, ei darlledu i nodi pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70. Ymhlith ei waith dramatig arall mae The Passion a Mametz, ar gyfer National Theatre Wales, a The Two Worlds of Charlie F., a enillodd wobr Rhyddid Mynegiant Amnest Rhyngwladol. Mae’n awdur dwy nofel, Resistance ac I Saw A Man (ill dwy wedi’u cyhoeddi yn 2016 gan Faber & Faber), a chafodd ei ddrama deledu ddiweddaraf, The Trick, am ddigwyddiadau’r sgandal hinsawdd ‘climategate’ yn 2009, ei henwebu am wobr ffilm orau BAFTA Cymru. Mae’n gyn Gymrawd Cullman yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, yn Gennad WalesPENCymru, yn Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn gyd-sylfaenydd Coleg y Mynydd Du, coleg newydd sy’n canolbwyntio ar newid systemau a dyfodol cynaliadwy. Bydd ei nofel nesaf yn cael ei chyhoeddi gan Faber & Faber yn 2028.
Darllenydd Gwadd
Dzifa Benson (Digidol)
Ganed Dzifa Benson yn Llundain i rieni o Ghana a chafodd ei magu yn Ghana, Nigeria a Togo. Mae hi bellach wedi’i lleoli yn Llundain ac mae’n artist arobryn sydd a’i gwaith amlgyfrwng yn croestorri llenyddiaeth, gwyddoniaeth, theatr, celf, y corff, defodau, perfformio a thechnolegau trochi. Mae ei gwaith wedi derbyn cymrodoriaeth gan Sefydliad Jerwood ac wedi cyrraeddr rhestr fer Gwobr Barddoniaeth James Berry a Gwobr Farddoniaeth Bridport. Mae beirniadaeth gelfyddydol Dzifa ar theatr, llenyddiaeth a cherddoriaeth yn ymddangos yn The Financial Times, The Telegraph and Poetry Review ymhlith cyhoeddiadau eraill ac mae hi wedi cynnal preswylfeydd barddoniaeth, curadurol a golygyddol yn y Whitstable Biennale, Oriel Orleans House a Granta Magazine. Teithiodd ei haddasiad o gynhyrchiad 2021 y National Youth Theatre o Othello ledled y DU ac ar hyn o bryd mae’n addasu A Portable Paradise, a enillodd wobr Roger Robinson, ar gyfer yr un llwyfan. Mae gan Dzifa radd meistr mewn Testun a Pherfformiad gan RADA a Birkbeck, a dewiswyd ei chasgliad barddoniaeth cyntaf, Monster, a gyhoeddwyd gan Bloodaxe Books fel Llyfr Barddoniaeth y MisThe Guardian.