Blas ar eiriau: Bwyd, Teimladau, a Theulu

Llu 4 Hydref 2027 - Gwe 8 Hydref 2027
Tiwtoriaid / Ella Risbridger & Kate Young
Darllenydd Gwadd / Helen Goh (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Bwyd
Iaith / Saesneg

Gall rysáit gario cof; gall pryd o fwyd adrodd hanes teulu; gall cegin ddod yn lleoliad ar gyfer bywyd cyfan. Ar y cwrs preswyl yma, byddwch chi’n archwilio byd cyfoethog ac amrywiol ysgrifennu bwyd, o gofiannau, ysgrifau a ryseitiau, i ffuglen, barddoniaeth, dramâu, nofelau graffig a ffurfiau arbrofol.

Gyda’n gilydd, byddwn ni’n edrych ar y straeon lu sy’n ffurfio o gwmpas yr hyn rydyn ni’n ei fwyta: y bobl a’n dysgodd ni i goginio, y byrddau rydyn ni’n eu rhannu a’r pethau sy’n dod â ni at ein gilydd, neu sydd weithiau’n ein gwahanu. Wrth i fwyd ddod yn rhan gynyddol bwysig o’r sgwrs am sut rydyn ni’n byw mewn hinsawdd sy’n newid, byddwn ni hefyd yn ystyried o ble mae ein bwyd yn dod a’r straeon rydyn ni’n eu hadrodd amdano, gan archwilio sut i drosi’r profiadau yma’n ysgrifennu cymhellol a chanfod y ffurf a’r llais sy’n gweddu orau i’ch stori.

P’un ai eich nod yw llyfr coginio llawn ryseitiau, casgliad o ysgrifau, nofel neu rywbeth sy’n gwrthod ffitio’n dwt i’r un categori, fe gewch gyfle i ddatblygu eich syniadau gyda’r tiwtoriaid ac arbrofi gydag ymagweddau newydd tuag at eich gwaith.

Fel awduron llwyddiannus ym maes ffuglen, llyfrau coginio a chofiant – yn ogystal â bod yn gyd-olygyddion yr antholeg o waith ysgrifennu bwyd The Dinner Table (Bloomsbury Publishing, 2023) – mae Ella Risbridger a Kate Young yn cynnig profiad, haelioni a brwdfrydedd dwfn am waith gwreiddiol a dychmygus.  Byddan nhw’n eich helpu i ddatgelu’r straeon sy’n cuddio mewn mannau cyfarwydd ac i ddod o hyd i ffyrdd newydd o’u rhoi ar y dudalen.

Dewch â’ch archwaeth, eich chwilfrydedd, a’r straeon na all neb eu hadrodd ond chi. Dewch â ryseitiau, atgofion, arsylwadau a syniadau bras. Dewch yn barod i ysgrifennu, darllen, sgwrsio, bwyta, a darganfod beth sy’n digwydd pan fydd bwyd yn fan cychwyn tuag at rywbeth llawer mwy.

Gadewch i ni ysgrifennu. Gadewch i ni fwyta. Gadewch i ni weld i ble mae’r stori’n mynd â ni.

Tiwtoriaid

Ella Risbridger

Awdur a newyddiadurwr clodwiw o Lundain yw Ella Risbridger. Gyda’i gwaith wedi ymddangos yn  The Financial Times, The Guardian, The Observer, Vogue a sawl lle arall, mae ei llyfrau’n amrywio o lyfrau coginio i lyfrau lluniau, o farddoniaeth i gasgliadau o ysgrifau. Enillodd ei llyfr cyntaf, Midnight Chicken (& Other Recipes Worth Living For) (Bloomsbury Publishing, 2019), wobr Llyfr Coginio’r Flwyddyn yng Ngwobrau Urdd yr Awduron Bwyd, a chafodd ei enwi’n llyfr y flwyddyn mewn sawl cyhoeddiad ar y ddwy ochr i’r Iwerydd. Cafodd ei disgrifio gan  The Times fel "awdur mwyaf dawnus ei chenhedlaeth", sydd bob amser yn braf ei glywed. Ella yw crëwr ‘You Get In Love And Then...?’, sef cylchlythyr llwyddiannus sydd â miloedd o bobl yn talu am danysgrifiad; ac mae’n rhannol berchen ar gath oren dew. Mae’n byw wrth y môr gyda’i gŵr a’r gath dew honno. Roedd ei llyfr diweddaraf, The Kitchen Book: Good Food For Every Day (HarperCollins, 2026), ar restr gwerthwyr gorau The Sunday Times yn syth, a dylech ei brynu os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod! 

 

Kate Young

Awdur a chogydd yw Kate Young, y mae ei llyfrau llwyddiannus Little Library Cookbooks yn cynnwys bwyd sydd wedi’i ysbrydoli gan waith llenyddol poblogaidd. Ar ôl plentyndod yn haul Awstralia wedi’i dreulio tu mewn yn darllen llyfrau, symudodd i Lundain, oedd yn llawer mwy addas iddi. Mae hi bellach yn byw mewn hen felin yng nghefn gwlad Lloegr. Mae ei nofel gyntaf, Experienced (HarperCollins, 2024), yn gomedi ramantus gwiar wedi’i gosod ym Mryste, a’i llyfr coginio diweddaraf yw Dinner at Mine? (Bloomsbury Publishing, 2026). 

Darllenydd Gwadd

Helen Goh (Digidol)

Ganwyd Helen Goh ym Malaysia a symudodd gyda’i theulu i Awstralia pan oedd yn ddeg mlwydd oed. Ar ôl astudio seicoleg, cyfunodd ei gwaith fel seicotherapydd â gyrfa ym maes coginio, gan ddod yn brif gogydd cynnyrch crwst mewn bwyty enwog ym Melbourne cyn symud i Lundain ac ymuno â thÎm Ottolenghi. Hi yw cyd-awdur y llyfr pobi poblogaidd iawn Sweet (Ebury Publishing, 2017) gyda Yotam Ottolenghi ac  mae wedi gweithio’n agos gydag ef yn datblygu ryseitiau ers dros ddegawd, gan dynnu ar ddylanwadau Asiaidd, Gorllewinol a’r Dwyrain Canol yn ei choginio. Mae Helen hefyd yn golofnydd bwyd llwyddiannus, ac mae ei ryseitiau wedi ymddangos yn y Sydney Morning Herald, The Guardian a The Observer. Mae’n byw yn Llundain gyda’i gŵr a’u meibion. @helen_goh_bakes 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811