Blas ar Ysgrifennu: Ysgrifennu am fwyd, teimladau a theulu

Llu 16 Hydref 2023 - Gwe 20 Hydref 2023
Tiwtoriaid / Ella Risbridger & Kate Young
Darllenydd Gwadd / Yẹ́misí Aríbisálà
Ffi’r Cwrs / O £575 - £625 y pen
Genres / BwydNon-Fiction
Iaith / Saesneg

Beth fyddwn ni’n trafod pan fyddwn ni’n siarad am fwyd? Ar y cwrs preswyl hwn, byddwn yn archwilio ysgrifennu bwyd yn ei holl ffurfiau – o gofiant i llyfr ryseitiau, o farddoniaeth i ddramâu, ffuglen, nofelau graffig a thu hwnt. Byddwn yn trafod sut mae ysgrifennu am fwyd yn fwy na dim ond ysgrifennu am fwyd, mae hefyd am fywyd â’i holl ogoniant. Nid porthiant yn unig yw bwyd, mae’n rhan bwysig o’n hunaniaeth. Yn ystod ein sesiynau, byddwn yn llunio ein straeon gan edrych ar y cymeriadau y byddwn yn coginio ar eu cyfer ac yn bwyta yn eu cwmni, beth yr ydym ni’n ei goginio a lle’r ydym ni’n siopa, a sut yr ydym yn dod at ein gilydd (neu sut ein bod ar wahân) wrth y bwrdd bwyd. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn llyfr coginio traddodiadol a arweinir gan ryseitiau, neu rywbeth mwy arbrofol, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddarganfod sut i adrodd y straeon hynny.

Fel awduron sydd  wedi ennill sawl gwobr am eu gwaith hunangofiannol a ffuglennol, a fel cyd-olygyddion blodeugerdd o ysgrifennu am fwyd sydd ar y gweill, bydd Ella a Kate yn dod â’u profiad, eu gofal a’u hangerdd dros waith newydd, cyffrous a chreadigol. Yr oll fydd ei angen arnoch yw ambell gynhwysyn hanfodol: eich straeon, eich ryseitiau a’ch atgofion. Yr hyn rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n ei ganfod ar y cwrs hwn yw gwaith ysgrifennu sy’n codi blys, a dealltwriaeth a gwell gwerthfawrogiad o flasau amrywiol bywyd. Ysgrifennwn! Bwytawn!

Tiwtoriaid

Ella Risbridger

Mae Ella Risbridger yn awdur ac yn olygydd. Roedd ei llyfr cyntaf poblogaidd, Midnight Chicken (& Other Recipes Worth Living For) (Bloomsbury Publishing, 2019), yn Llyfr y Flwyddyn gan  The Sunday Times, ac enillodd Wobr Llyfr Coginio y Flwyddyn y Guild of Food. Mae ei llyfr coginio diweddaraf, The Year of Miracles (recipes about love + grief + growing things) (Bloomsbury Publishing, 2022), wedi cyrraedd rhestr hir Gwobrau Andre Simon, yn Llyfr Gorau Waterstones 2022; a chafodd ganmoliaeth gan Nigella Lawson, Nigel Slater, Diana Henry, a llawer mwy. Mae’r llyfr wedi’i osod yn rhannol (drwy gyd-ddigwyddiad hyfryd!) yng Nghricieth, y dref agosaf at Dŷ Newydd. Mae hi hefyd yn ysgrifennu llyfrau plant; blodeugerddi barddoniaeth; a newyddiaduraeth, gan gynnwys ar gyfer The Observer, The Financial Times, a Vogue. Mae ei llyfrau wedi'u cyfieithu i sawl iaith, gan gynnwys Rwsieg a Tsieinëeg. Mae hi'n byw yn Llundain gyda miloedd o lyfrau ac un gath. 

 

Kate Young

Mae Kate Young yn awdur ac yn gogyddes. Mae ei llyfrau coginio arobryn Little Library (The Little Library Cookbook) (Head of Zeus, 2017), The Little Library Year (Anima, 2019), The Little Library Christmas (Anima, 2020), a The Little Library Parties (Apollo, 2022) yn cynnwys bwyd wedi'i ysbrydoli gan ei hoff weithiau llenyddol. Gwerthodd ei nofel gyntaf Experienced, “romcom” cwiar a osodwyd ym Mryste, mewn arwerthiant saith ffordd a bydd yn cael ei chyhoeddi gan Fourth Estate yn 2024. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau amrywiol, gan gynnwys The Guardian, a The Times; yn cyfrannu at gylchgronau bwyd fel Waitrose Magazine, Delicious a Sainsbury’s Magazine; ac mae wedi cynghori ar erthyglau nodwedd ar gyfer  The Financial Times, a The Daily Telegraph. Ar ôl plentyndod heulog yn Awstralia a dreuliodd dan do yn darllen llyfrau, symudodd i Lundain, oedd yn ei siwtio’n llawer gwell. Mae hi bellach yn byw yng nghefn gwlad Lloegr. 

Darllenydd Gwadd

Yẹ́misí Aríbisálà

Mae Yẹ́misí Aríbisálà, awdur, artist gweledol a darlunydd a aned yn Nigeria, yn fwyaf adnabyddus am ei defnydd thematig o ysgrifennu bwyd i archwilio diwylliant Nigeria. Enillodd ei llyfr cyntaf, Longthroat Memoirs: Soups, Sex and Nigerian Tastebuds, Wobr John Avery 2016 yng Ngwobrau Llyfrau André Simon, a chyrhaeddodd restr fer The Art of Eating Prize 2018, a The Gourmand World Cookbook Awards. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi ledled y byd yn The New Yorker, Vogue UK, The World of Interiors, The Johannesburg Review of Books, Critical Muslim, Sandwich, Chimurenga Chronic Cape Town, ac yn New Daughters of Africa: An International Anthology of Writing by Women of African Descent. Gellir gweld ei phortreadau o awduron Nigeria yn Google Arts & Culture, darluniau yn Olongo Africa ac yn yr Aké Review. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys celf clawr ar gyfer cyfieithiadau Iorwba o ysgrifau gan Emily Rolfe Grosholz a Haruki Murakami, a darn ar smyglo bwyd trwy feysydd awyr ar gyfer London Feeds Itself gan Jonathan Nunn.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811